Ymchwiliad i Lyfrgelloedd Cyhoeddus

Ymchwiliad i Lyfrgelloedd Cyhoeddus

Mae’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol wedi cynnal ymchwiliad byr i lyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru. Er mwyn helpu ei ymchwiliad, ceisiodd y Pwyllgor farn ar y canlynol:

 

  • Y cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru i gyflawni ymrwymiadau ei Rhaglen Llywodraethu sy'n ymwneud a llyfrgelloedd, a pha mor gynaliadwy yw unrhyw gynnydd yn yr hinsawdd sydd ohoni; 
  • I ba raddau y mae'r fframweithiau deddfwriaeth a pholisi presennol yn addas i ateb yr heriau sy'n wynebu awdurdodau lleol wrth ddarparu gwasanaethau llyfrgelloedd yng Nghymru;
  • Pa mor barod yw Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ar gyfer lliniaru effaith toriadau yn y sector cyhoeddus ar wasanaethau llyfrgelloedd;
  • Opsiynau ar gyfer gwella cynaliadwyedd ariannol gwasanaethau llyfrgelloedd, gan gynnwys modelau amgen ar gyfer eu darparu;
  • Y rôl gyfoes a chymunedol sydd gan lyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 21/11/2013

Dogfennau

Ymgynghoriadau