Trefniadau Cyflenwi ar gyfer Absenoldeb Athrawon

Trefniadau Cyflenwi ar gyfer Absenoldeb Athrawon

Yn dilyn cyhoeddi adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru yngylch Cyflenwi ar gyfer Absenoldeb Athrawon ym mis Medi 2013, cynhaliodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ymchwiliad i gyflenwi ar gyfer absenoldeb athrawon. Yn benodol, canolbwyntiodd y Pwyllgor ar:

  • Patrymau mewn absenoldeb athrawon; 
  • Gwella’r modd y caiff trefniadau presenoldeb athrawon eu rheoli, gan gynnwys absenoldeb salwch;
  • Lleihau effaith gwersi cyflenwi ar ddatblygiad dysgwyr;
  • Gwella’r modd y caiff trefniadau cyflenwi absenoldeb eu rheoli; 
  • Gwella datblygiad proffesiynol parhaus athrawon cyflenwi; 
  • Gwaith cyflenwi a’i berthynas â pholisïau a mentrau Llywodraeth Cymru;
  • Sicrhau bod yr adnoddau sy’n cael eu gwario ar waith cyflenwi yn cael eu rheoli yn fwy effeithiol;
  • Cadw disgyblion yn ddiogel.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 15/04/2014

Dogfennau