Gofal heb ei drefnu - bod yn barod ar gyfer gaeaf 2013/14
Gofal heb ei drefnu - bod yn barod ar gyfer gaeaf 2013/14
Mewn ymateb i bwysau parhaus ar wasanaethau gofal heb ei
drefnu yng Nghymru yn ystod 2012/13, gwahoddodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog
Gwasanaethau Cymdeithasol i sesiwn dystiolaeth ar ofal heb ei drefnu: bod yn
barod ar gyfer gaeaf 2013/14 ar 9 Hydref 2013.
Diben y sesiwn hon oedd cael sicrwydd bod ein gwasanaethau iechyd,
gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau ambiwlans yn gallu ymdopi â’r pwysau
cynyddol sy’n debygol o fod arnynt yn ystod gaeaf 2013/14 o ran gofal heb ei
drefnu. Nododd y Pwyllgor y materion penodol a ganlyn i’w hystyried:
- a fu digon o gynnydd o ran cyflawni prif flaenoriaethau’r Gweinidog i
leddfu’r pwysau ar ofal heb ei drefnu a beth yw’r sefyllfa ar hyn o bryd;
- enghreifftiau o gamau effeithiol a gymerwyd yn gyflym i leddfu’r
pwysau ar ofal heb ei drefnu, yn enwedig o ran gwasanaethau ambiwlans brys
a gwasanaethau acíwt mewn ysbytai;
- y cynlluniau a’r datrysiadau i ymdrin â phwysau’r gaeaf yn 2013/14,
gan gynnwys a oes gan ysbytai y capasiti cywir i fodloni’r angen;
- a oes mesurau angenrheidiol ar waith i leddfu’r pwysau sylweddol y
gall y galw am ofal heb ei drefnu ei gael ar yr holl system, gan gynnwys a
fydd cyllid ychwanegol yn cael ei dargedu at y meysydd hynny sydd o dan y
pwysau mwyaf; a’r
- heriau a chynlluniau hirdymor i wella’r sefyllfa ar gyfer y dyfodol,
gan fynd y tu hwnt i wasanaethau mewn ysbytai a gwasanaethau ambiwlans i
gwmpasu darpariaeth yn y gymuned.
Casglu tystiolaeth
Wnaeth y Pwyllgor glywed tystiolaeth lafar gan y
Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau
Cymdeithasol ar 9
Hydref 2013.
Llythyr y Pwyllgor
Ysgrifennodd
y Pwyllgor at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy
Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
(PDF, 260KB) ym mis Rhagfyr 2013. Ymatebodd
y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (PDF, 313KB) ym
mis Chwefror 2014.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 17/12/2013
Dogfennau
- Tystiolaeth ysgrifenedig Llywodraeth Cymru
- Trawsgrifiad o’r sesiwn dystiolaeth ar 9 Hydref 2013
- Llythyr gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol at Lywodraeth Cymru yn gofyn am ragor o wybodaeth yn dilyn y sesiwn ar 9 Hydref 2013 PDF 167 KB Gweld fel HTML (3) 17 KB
- Ymateb Llywodraeth Cymru i gais y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol am ragor o wybodaeth - 31 Hydref 2013
- Ymateb Llywodraeth Cymru i gais y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol am ragor o wybodaeth - 11 Tachwedd 2013
- Llythyr y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol at Lywodraeth Cymru yn crynhoi’r materion allweddol o ran gofal heb ei drefnu: bod yn barod ar gyfer gaeaf 2013/14 - 20 Rhagfyr 2013 PDF 260 KB
- Ymateb Llywodraeth i lythyr y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn crynhoi’r materion allweddol o ran gofal heb ei drefnu: bod yn barod ar gyfer gaeaf 2013/14 - 3 Chwefror 2014 PDF 313 KB