Mynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru
Mynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru
Mae Pwyllgor
Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cynnal ymchwiliad i fynediad at dechnolegau
meddygol yng Nghymru.
Cylch gorchwyl yr ymchwiliad oedd i:
- archwilio sut y mae'r GIG yn asesu manteision posibl unrhyw
dechnolegau meddygol newydd neu amgen;
- archwilio'r angen i fabwysiadu dulliau mwy cydgysylltiedig o gomisiynu
yn y maes hwn, a pha mor ymarferol fyddai gwneud hynny;
- archwilio sut y mae GIG Cymru yn ymwneud â'r rhai sydd ynghlwm wrth y
gwaith o ddatblygu / cynhyrchu technolegau meddygol newydd;
- archwilio'r ffactorau ariannol a all fod yn rhwystr i'r broses o
fabwysiadu technolegau meddygol newydd effeithiol, a dulliau arloesol o
oresgyn y rhwystrau hyn.
Seiliwyd y cylch gorchwyl hwn ar broses ymgynghori a gynhaliodd y
Pwyllgor yn hydref 2012 ynghylch cwmpas yr ymchwiliad hwn. Sylwch nad oedd y Pwyllgor yn bwriadu
trafod mynediad i feddyginiaethau fel rhan o'r ymchwiliad hwn, dim ond
technolegau meddygol.
Tystiolaeth
gan y cyhoedd
Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth am y testun yma.
Adroddiad y Pwyllgor
Cyflwynodd y Pwyllgor adroddiad
(PDF, 956KB) ym mis Rhagfyr 2014. Ymatebodd
(PDF, 103KB) Llywodraeth Cymru yn Chwefror 2015.
Dadl yn y Cyfarfod Llawn
Cynhaliwyd y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad y Pwyllgor ar yr
ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru ar 25
Chwefror 2015.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 22/07/2013
Dogfennau
- MT 30 - Tîm PATH (Llwybrau i fabwysiadu technolegau ym maes gofal iechyd) (Saesneg yn unig) PDF 125 KB Gweld fel HTML (1) 37 KB
Ymgynghoriadau
- Mynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru - Ymgynghoriad ar y cylch gorchwyl (Wedi ei gyflawni)
- Mynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru (Wedi ei gyflawni)