P-04-481 Cau'r bwlch ar gyfer disgyblion byddar yng Nghymru

P-04-481 Cau'r bwlch ar gyfer disgyblion byddar yng Nghymru

Wedi'i gwblhau

 

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth genedlaethol ar gyfer Cau'r Bwlch o ran cyrhaeddiad addysgol rhwng disgyblion byddar a'u cyfoedion.

 

Mae'r Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar yng Nghymru yn cyflwyno'r ddeiseb hon heddiw oherwydd ei bod yn Wythnos Ymwybyddiaeth o fod yn Fyddar, ac mae dwy flynedd wedi mynd heibio ers i 55 Aelod Cynulliad roi adduned y byddent yn cymryd camau i Gau'r Bwlch ar gyfer plant byddar.

 

Er hynny, mae ystadegau Llywodraeth Cymru yn dangos bod bylchau sylweddol o ran cyrhaeddiad rhwng disgyblion byddar a'u cyfoedion. Yn 2012, roedd disgyblion byddar 26 y cant yn llai tebygol o lwyddo i basio 5 TGAU ar radd A*-C, a 41 y cant yn llai tebygol o lwyddo i basio ar raddau A*-C yn y pynciau craidd Saesneg, Cymraeg, Mathemateg a Gwyddoniaeth.

 

Mae ein deiseb fideo yn gofyn i'r arbenigwyr (plant byddar eu hunain) beth sydd bwysicaf yn eu barn hwy. Dywedasant wrthym:

 

·         Mae angen cefnogaeth briodol arnom yn yr ysgol a'r coleg

·         Mae angen acwsteg dda ym mhob ystafell ddosbarth arnom

·         Bydd rhai ohonom yn defnyddio iaith arwyddion. Helpwch ni i annog ein cyfoedion sy'n clywed a'n hathrawon i ddysgu iaith arwyddion.

·         Mae arnom angen i fwy o athrawon a disgyblion fod ag ymwybyddiaeth o fod yn fyddar.

 

Mae gormod o ddisgyblion byddar yn wynebu rhwystrau yn hyn o beth. Mae angen strategaeth genedlaethol er mwyn goresgyn y rhwystrau a Chau'r Bwlch!

 

Gwybodaeth ychwanegol:

Mae modd llwytho ein deiseb fideo a'r adroddiad sy'n cyd-fynd â hi oddi ar y wefan: www.ndcs.org.uk/ClosetheGapWales

 

Cynhyrchwyd y ddeiseb fideo gyda chymorth wyth o bobl ifanc byddar, ac mae'n disgrifio'r pedwar ffactor pwysicaf i ddisgyblion byddar mewn ysgolion a cholegau, yn eu barn hwy.

 

Mae'r adroddiad sy'n cyd-fynd â'r fideo yn nodi'r rhwystrau y bydd llawer o ddisgyblion byddar yng Nghymru yn eu hwynebu yn y meysydd hyn. Mae hefyd yn cynnig awgrymiadau ynghylch sut y gallai strategaeth helpu i oresgyn y rhwystrau hyn.

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 21/05/2019 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan y deisebwyr a chytunodd i rannu tystiolaeth y deisebydd gyda'r Gweinidog Addysg a gofyn iddi weithio gyda'r Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar (NDCS) Cymru i weithredu’n unol â'u hargymhellion. Wedi hynny, cytunodd y pwyllgor i gau'r ddeiseb.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 14/05/2013.

 

 

Prif ddeisebydd:  NDCS

 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 14 Mai 2013

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 13/05/2013