P-04-477 Cefnogi'r Bil Rheoli Cŵn (Cymru)

P-04-477 Cefnogi'r Bil Rheoli Cŵn (Cymru)

Wedi'i gwblhau

 

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â'r Bil Rheoli Cŵn Cymru.

 

Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, ac sy’n byw yng Nghymru, yn galw ar Lywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â'r Bil Rheoli Cŵn (Cymru) i fynd i’r afael â phroblemau’n ymwneud â chŵn peryglus a bygythiol, ac i beidio â dibynnu ar gynigion tameidiog Llywodraeth y DU sydd wedi'u gosod allan yn ei Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol drafft. Cafwyd esboniad cychwynnol o'r Bil hwn yn y Papur Gwyn  “Putting Victims First, More Effective Responses to Anti-social Behaviour”.

 

Cytunwn â Llywodraeth Cymru sy’n dweud yn ei datganiad fod Hysbysiad Rheoli Cŵn yn amlwg yn well na’r holl ddeddfwriaeth bresennol gan nad oes angen mynd ag achosion gerbron y llys ac, felly, mae llai o bwysau ar y pwrs cyhoeddus. Credwn hefyd fod cynigion Llywodraeth y DU, sy'n cynnwys pedwar dull gorfodi gwahanol, sef-

 

  • gwaharddebau i atal niwsans annoyance;;
  • gorchmynion ymddygiad troseddol;
  • pwerau gwasgaru;
  • hysbysiadau amddiffyn cymunedol;

 

yn llawer rhy gymhleth, trwsgl a biwrocrataidd ac y byddant yn arwain at oedi. Rhaid gwneud cais i’r llys cyn rhoi dau ohonynt ar waith - gwaharddebau a gorchmynion ymddygiad troseddol.

 

Credwn fod yr un Hysbysiad Rheoli Cŵn cynhwysfawr a gynigir i Gymru yn ddull llawer iawn gwell ac rydym yn annog Llywodraeth Cymru i lunio deddf sy’n seiliedig ar y cysyniad hwn yn unol â’r bwriad gwreiddiol.  Rydym yn tynnu sylw Llywodraeth Cymru at y canlynol: (i) casgliadau hynod feirniadol Pwyllgor Dethol Tŷ'r Cyffredin ynghylch adroddiad Pwyllgor yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, sef 'Rheoli Cŵn a Lles' sy'n dweud bod cynigion Llywodraeth y DU yn 'rhy syml' ac yn 'resynus o annigonol'. Mae'r Pwyllgor hefyd yn argymell bod DEFRA a'r Swyddfa Gartref yn cyflwyno Hysbysiadau Rheoli Cŵn a (ii) y ffaith bod y cyrff sydd wedi uno yn yr ymgyrch, sef undebau, elusennau anifeiliaid, yr heddlu a milfeddygon hefyd  yn anfodlon ar y cynigion. 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 25/02/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd i gau’r ddeiseb yn sgil faint o amser y mae wedi bod o dan ystyriaeth a gan fod y pwerau deddfwriaethol ynghylch y mater hwn bellach wedi’u cadw yn ôl i Senedd y DU o dan Ddeddf Cymru 2017. Diolchodd y Pwyllgor i'r deisebydd am godi’r mater hwn trwy’r broses ddeisebau.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 30/04/2013.

 

 

Prif ddeisebydd:  Cyng. Dilwar Ali

 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 30 Ebrill 2013

 

Nifer y llofnodion : 1119

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 22/04/2013