Ymchwiliad i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor

Ymchwiliad i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor

Mae’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi cytuno i gynnal ymchwiliad byr i’r ffordd yr aethpwyd i’r afael â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor. Arweiniodd hyn yn y pen draw at ailymgynnull y Cynulliad yn ystod y toriad.

 

Mae cylch gorchwyl yr ymchwiliad fel a ganlyn:

  • Pam yr oedd Llywodraeth Cymru o’r farn nad oedd yn gallu cyflwyno Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor cyn iddi gael y trosglwyddiad ariannol gan y Trysorlys, y cafodd ei gyhoeddi yn y pen draw yn Natganiad Hydref y Canghellor ar 5 Rhagfyr 2012.
  • Faint o gyfathrebu a fu rhwng Llywodraeth Cymru, y Trysorlys a Swyddfa Cymru er mwyn datrys y mater hwn, a natur y cyfathrebu hwn.
  • Pa wersi sydd i’w dysgu o’r mater hwn.

 

Bu’r Pwyllgor yn clywed tystiolaeth gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau yn ei gyfarfod ar 4 Chwefror, a bydd yn cyhoeddi ei adroddiad yn fuan.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 21/05/2013

Dogfennau