Gwaith Caffael a Rheoli Gwasanaethau Ymgynghori

Gwaith Caffael a Rheoli Gwasanaethau Ymgynghori

Mae pob corff sector cyhoeddus yn cyflogi staff. Fodd bynnag, pan fydd sefydliad yn wynebu her benodol, gall gredu nad yw ei staff yn ddigon arbenigol i fynd i’r afael â phryder, prosiect neu fater penodol. Mewn amgylchiadau o’r fath, bydd sefydliadau sector cyhoeddus weithiau’n dod ag ymgynghorydd i mewn o dan gontract dros dro.

Cyhoeddwyd adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru Caffael a Rheoli Gwasanaethau Ymgynghori ym mis Chwefror 2013. Canfu’r adroddiad, er bod cyrff cyhoeddus bellach yn gwario llai ar ymgynghorwyr, o £173 miliwn yn 2007-08 i £133 miliwn yn 2010-11, nad ydynt yn gallu dangos gwerth da am arian o ran cynllunio, caffael a rheoli gwasanaethau ymgynghori. Hefyd, roedd amrywiaeth sylweddol o ran i ba raddau y mae cyrff cyhoeddus yn arfer safonau sy'n gyffredinol dderbyniol yn yr amryw gamau o gaffael a rheoli ymgynghorwyr.

Roedd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn credu ei bod yn briodol cynnal ymchwiliad byr i’r materion a godwyd yn adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Roedd y Pwyllgor yn ymwybodol o’r ffaith y gall caffael ymgynghorydd fod yn ffordd synhwyrol iawn o ddatrys problem neu her benodol, ond roedd hefyd yn ymwybodol y gall dod ag ymgynghorydd i mewn dan gontract yn awtomatig mewn ymateb i heriau newydd gynnig gwerth gwael am arian cyhoeddus.

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 01/08/2013

Dogfennau