Bil Llywodraeth, a gyflwynwyd gan Carl Sargeant, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau. Yn dilyn newid ym mhortffolios y Gweinidogion ym mis Mawrth 2013, fe wnaeth y Prif Weinidog awdurdodi John Griffiths AC, y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, fel yr Aelod newydd sy'n gyfrifol am y Bil, o 18 Mawrth 2013. Mae’r Pwyllgor Busnes wedi anfon y Bil at y Pwyllgor Menter a Busnes.
Ynglŷn â’r Bil
Mae Bil Teithio Llesol (Cymru) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol wella cyfleusterau a llwybrau i gerddwyr a beicwyr yn barhaus, a pharatoi mapiau sy’n nodi’r llwybrau presennol a’r llwybrau posibl y gallant eu defnyddio yn y dyfodol. Bydd y Bil hefyd yn nodi bod angen i gynlluniau ffyrdd newydd ystyried anghenion cerddwyr a beicwyr yn eu camau dylunio.
Cyfnod presennol
Daeth Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 (gwefan allanol) yn gyfraith yng Nghymru (gwefan allanol) ar 4 Tachwedd 2013.
Cofnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gwybodaeth gyswllt:
Clerc: Sarah Beasley
Ffôn: 029 2089 8032
Cyfeiriad Postio:
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA
E-Bost: Pwllygor.Menter@cymru.gov.uk
Math o fusnes: Bil
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 02/04/2013
Angen Penderfyniad: 14 Maw 2013 Yn ôl Y Pwyllgor Menter a Busnes - y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Busnes - y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - y Pedwerydd Cynulliad
Prif Aelod: John Griffiths AC