Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Mordwyo Morol
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Mordwyo Morol
Cefndir
Mae Bil
Mordwyo Morol (Rhif 2) Llywodraeth y DU (‘y Bil’) yn cael ei ystyried gan
Senedd y DU ar hyn o bryd.
Diben rhai
adrannau o’r Bil hwn yw deddfu mewn meysydd cymhwysedd sydd wedi eu datganoli i
Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’n ofynnol, yn ôl confensiwn, bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru (‘y Cynulliad’) yn ystyried cydsynio â hyn. Mae’r Cynulliad
yn gwneud hyn drwy ystyried cynnig cydsyniad deddfwriaethol a gyflwynir gan
Lywodraeth Cymru.
Mae rhagor
o wybodaeth am gynigion cydsyniad deddfwriaethol i’w chael yn hysbysiad hwylus
y Gwasanaeth Ymchwil Cyfres y Cyfansoddiad: 6 - Cynigion Cydsyniad
Deddfwriaethol.
Mae’r
cynnig cydsyniad deddfwriaethol wedi ei ddrafftio fel a ganlyn:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried
darpariaethau’r Bil Mordwyo Morol (Rhif 2), sy’n ymwneud â diwygiadau i Ddeddf
Peilota 1987, Deddf Harbyrau 1964 a Deddf Llongau Masnach 1995, i’r graddau y maent
yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cyhoeddodd
Llywodraeth Cymru femorandwm cydsyniad deddfwriaethol (‘y memorandwm’) ar 21
Rhagfyr 2012 sy’n esbonio hyn mewn rhagor o fanylder.
Yn bennaf,
mae’r memorandwm yn nodi bod y darpariaethau yn y Bil y gwneir cais i gael
cydsyniad ar eu cyfer wedi’u cynnwys yn y cymalau a ganlyn:
-
Cymalau 1-4 – peilota
-
Cymalau 5 a 6 – Awdurdodau Harbwr
-
Cymal 7 – Cwnstabliaid Porthladd
-
Cymal 8 - awdurdodau goleudy cyffredinol
-
Cymal 10 – gofynion o ran criwio llongau
-
Cymal 11 – marcio llongddrylliadau
Mae’r
elfennau hyn yn y Bil yn ymwneud â diwygiadau i Ddeddf Peilota 1987, Deddf
Harbyrau 1964 a Deddf Llongau Masnach 1995, i’r graddau y maent yn dod o fewn
cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Yn
gyffredinol, nid yw ‘morgludiant’, ‘hawliau a rhyddid mordwyo’ a ‘harbyrau,
dociau, pierau a llithrfeydd’ yn feysydd cymhwysedd a ddatganolwyd. Fodd
bynnag, mae rhai agweddau wedi’u datganoli, a chaiff y rhain eu diffinio yn Neddf
Llywodraeth Cymru 2006 fel a ganlyn:
-
harbyrau, dociau, pierau a llithrfeydd y mae eu hangen yn
gyfan gwbl neu’n bennaf ar gyfer y diwydiant pysgota, ar gyfer hamdden neu ar
gyfer cyfathrebu rhwng mannau yng Nghymru (neu ar gyfer dau neu ragor o’r
dibenion hyn);
-
rheoleiddio, at ddibenion diogelu iechyd dynol, iechyd
anifeiliaid neu iechyd planhigion neu les anifeiliaid neu’r amgylchedd, unrhyw
harbyrau, dociau, pierau a llithrfeydd yng Nghymru.
-
mewn perthynas â rheoleiddio’r defnydd o lestrau sy’n cludo
anifeiliaid at ddibenion diogelu iechyd dynol, iechyd anifeiliaid neu iechyd
planhigion neu les anifeiliaid neu’r amgylchedd;
-
mewn perthynas â rheoleiddio gweithfeydd a allai rwystro
neu beryglu mordwyo; ac
-
mewn perthynas â llongddrylliadau hanesyddol.
Diben y
polisi
Mae’r
memorandwm yn nodi diben y polisi yn fwy manwl. Ceir crynodeb byr yn y blwch
isod.
Crynodeb
o ddiben y polisi Mae’r memorandwm yn datgan yr hyn
a ganlyn: ‘Bil aelod preifat yw’r Bil
Mordwyo Morol. Mae’r Bil yn gwneud rhai newidiadau yn y Deddfau presennol
ynglŷn â hwylio llongau yn ddiogel i mewn i harbyrau, gan gynnwys
peilota, cwnstabliaid porthladd a marcio llongddrylliadau. Bwriad y Bil yw
gwneud y prosesau sy’n gysylltiedig â’r swyddogaethau hyn yn llai beichus
tra’n sicrhau lefel uchel o ddiogelwch mewn porthladdoedd.’ |
Barn y
rhanddeiliaid
Mae’r
wybodaeth a ganlyn wedi’i seilio ar dystiolaeth a gyflwynwyd i Senedd y DU.
Mae
Maritime UK
wedi datgan ei fod yn cefnogi’r Bil. Nid yw wedi gwneud sylw ar y materion datganoledig,
ac mae wedi canolbwyntio ar y broses yn Senedd y DU.
Mae’r
Gymdeithas Hwylio Frenhinol wedi mynegi pryderon am y Bil. Nid yw wedi gwneud
sylw ar yr agweddau datganoledig, ac mae wedi canolbwyntio ar y broses yn
Senedd y DU.
Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 06/08/2014
Dogfennau