P-04-455 Achub adran achosion brys yn Ysbyty'r Tywysog Philip

P-04-455 Achub adran achosion brys yn Ysbyty'r Tywysog Philip

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Angharad Howells, ar ôl casglu 1,038 o lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn bwriadu israddio neu gau’r gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty’r Tywysog Philip. Mae hwn yn wasanaeth hanfodol i Lanelli a’r cymunedau lleol a rhaid i’r gymuned weithredu i achub ein Hadran Ddamweiniau ac Achosion Brys. Llofnodwch y ddeiseb hon i atal y gwasanaeth hanfodol hwn rhag cau, ac i sicrhau nad yw bywydau yn y fantol o ganlyniad i gam o’r fath.

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 04/04/2016 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb oherwydd yr amser sydd wedi mynd heibio ers i'r deisebydd gysylltu ddiwethaf â'r Pwyllgor.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 29/01/2013.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Llanelli

·         Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 12/04/2017