P-04-443 : Hanes Cymru

P-04-443 : Hanes Cymru

Galwn ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i wneud Hanes Cymru yn orfodol yn ein hysgolion o saith oed.

 

Gwybodaeth ychwanegol: Addysgu am Gymru o’r oes Geltaidd hyd at y presennol, yn cynnwys Llywelyn, Glyndŵr, pob Tywysog Brodorol Cymreig arall, Tryweryn, y Welsh Not, y Goresgyniad Normanaidd, y Ddeddf Uno a diwydiannu. Ymddengys nad yw hanes Cymru i gyd yn cael ei ddysgu, a rhai elfennau yn unig yn cael eu cynnwys i gyd-fynd â chyfnodau a digwyddiadau penodol.

 

Prif ddeisebydd: BALCHDER CYMRU / PRIDE OF WALES

 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:  15 Ionawr 2013

 

Nifer y llofnodion:  597

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 04/07/2013