P-04-439 : Diogelu coed hynafol a choed treftadaeth Cymru ymhellach

P-04-439 : Diogelu coed hynafol a choed treftadaeth Cymru ymhellach

Wedi'i gwblhau

 

Rydym o'r farn bod coed hynafol a choed treftadaeth Cymru yn rhan hanfodol ac unigryw o amgylchedd a threftadaeth y genedl.

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i'w diogelu ymhellach, er enghraifft, drwy:

  • roi dyletswydd ar yr Un Corff Amgylcheddol newydd i hyrwyddo cadwraeth coed o'r fath drwy roi cyngor a chymorth i'w perchenogion, gan gynnwys cymorth grant lle bo'n angenrheidiol;
  • diwygio'r ddeddfwriaeth Gorchymyn Cadw Coed bresennol i'w gwneud yn addas i'r diben wrth ddiogelu coed hynafol a threftadaeth, a hynny yn unol â chynigion Coed Cadw (the Woodland Trust);
  • cynnwys cronfa ddata o'r coed a gofnodwyd ac a nodwyd yn ddilys gan y Prosiect Helfa Coed Hynafol fel casgliad o ddata i'w gadw gan unrhyw olynydd i Gynllun Gofodol Cymru, gan gydnabod y rhain fel 'Coed o Ddiddordeb Arbennig' a rhoi'r wybodaeth hon i awdurdodau cynllunio lleol fel y gellir ei chynnwys yn eu systemau gwybodaeth ddaearyddol, er gwybodaeth.    

 

Prif ddeisebydd: Coed Cadw Cymru

 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:  4 Rhagfyr 2012

 

Nifer y llofnodion:  5,320

 

Statws

 

Yn ei gyfarfod ar 07/03/2017 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth a chytunodd i gau'r ddeiseb, o ystyried bod y deisebwyr yn aelodau o'r grŵp Gorchwyl a Gorffen sydd wedi gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru, ac ymrwymiad Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ystyried pa gamau i'w cymryd ymlaen. 

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

 

 

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 04/07/2013