P-04-439 : Diogelu coed hynafol a choed treftadaeth Cymru ymhellach
P-04-439 : Diogelu coed hynafol a choed treftadaeth Cymru ymhellach
Rydym o'r farn bod coed
hynafol a choed treftadaeth Cymru yn rhan hanfodol ac unigryw o amgylchedd a
threftadaeth y genedl.
Rydym yn galw ar Gynulliad
Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i'w diogelu ymhellach, er
enghraifft, drwy:
- roi dyletswydd ar yr Un Corff Amgylcheddol
newydd i hyrwyddo cadwraeth coed o'r fath drwy roi cyngor a chymorth i'w
perchenogion, gan gynnwys cymorth grant lle bo'n angenrheidiol;
- diwygio'r ddeddfwriaeth Gorchymyn Cadw Coed
bresennol i'w gwneud yn addas i'r diben wrth ddiogelu coed hynafol a
threftadaeth, a hynny yn unol â chynigion Coed Cadw (the Woodland Trust);
- cynnwys cronfa ddata o'r coed a gofnodwyd
ac a nodwyd yn ddilys gan y Prosiect Helfa Coed Hynafol fel casgliad o
ddata i'w gadw gan unrhyw olynydd i Gynllun Gofodol Cymru, gan gydnabod y
rhain fel 'Coed o Ddiddordeb Arbennig' a rhoi'r wybodaeth hon i awdurdodau
cynllunio lleol fel y gellir ei chynnwys yn eu systemau gwybodaeth
ddaearyddol, er gwybodaeth.
Prif ddeisebydd: Coed
Cadw Cymru
Ysytyriwyd
am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 4 Rhagfyr
2012
Nifer
y llofnodion: 5,320
Statws
Yn ei gyfarfod ar 07/03/2017 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i
chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth a chytunodd i gau'r ddeiseb, o ystyried bod
y deisebwyr yn aelodau o'r grŵp Gorchwyl a Gorffen sydd wedi gwneud
argymhellion i Lywodraeth Cymru, ac ymrwymiad Ysgrifennydd y Cabinet dros yr
Amgylchedd a Materion Gwledig i ystyried pa gamau i'w cymryd ymlaen.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/07/2013