P-04-438 Hygyrchedd wrth Siopa
P-04-438 Hygyrchedd wrth Siopa
Geiriad
y ddeiseb:
Rydym ni sydd wedi llofnodi
isod yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i:
Ymchwilio i’r
ddarpariaeth o leoedd parcio oddi ar y ffordd i bobl anabl yn unol â chyfarwyddyd yr Adran Drafnidiaeth.
Creu deddf sy’n nodi
isafswm y lleoedd parcio i bobl anabl, a dimensiynau’r lleoedd hynny. Ymchwilio i’r maint lleiaf a bennir ar gyfer lleoedd
parcio i bobl anabl ar hyn o bryd, i ganfod a ystyrir faniau a gaiff eu
defnyddio i gludo defnyddwyr cadeiriau olwyn.
Pennu dirwy safonol, uwch am gamddefnyddio lleoedd parcio i bobl anabl, a
fyddai’n
gymwys ym mhob maes parcio, a sicrhau y caiff ei gorfodi y tro cyntaf y bydd
rhywun yn troseddu.
Gorfodi cwmnïau
tacsis i gludo’r
clampiau a riliau dirwyn cywir i’w defnyddio gyda chadeiriau olwyn â modur.
Ymchwilio a yw’r tai
bach a ddarperir i bobl anabl ar hyn o bryd yn ddigon mawr i ddefnyddwyr
cadeiriau olwyn â modur
a’u gofalwyr.
Creu cynllun sy’n
trefnu bod siopau sydd â
rampiau sefydlog neu symudol yn arddangos bathodyn yn eu ffenestri.
Prif ddeisebydd: Mencap
ac Ysgol Erw’r Delyn
Ysytyriwyd
am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 20 Tachwedd 2012
Nifer y llofnodion: 55
Trafodwyd y ddeiseb hon gan y Pwyllgor ar 23
Chwefror 2016 o dan Eitem 4 ar yr Agenda –
Deisebau y cynigir y dylid eu cau, a chytunodd i gau’r ddeiseb.
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 16/05/2016