Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013

Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013

Bydd y gorchymyn drafft Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2012 yn trosglwyddo swyddogaethau o gyrff presennol i Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

Dyma'r ail Orchymyn a wnaed o dan y Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011 sy'n ymwneud â chreu Cyfoeth Naturiol Cymru. Gellir cael manylion am ystyriaethau y Cynulliad o'r Gorchymyn cyntaf i'w weld yma.

 

Mae'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd wedi ystyried drafft cynnar o’r gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2012, cyn iddo gael ei osod yn ffurfiol gerbron y Cynulliad.

 

Gosodwyd yr Orchymyn Drafft yn ffurfiol ar 15 Tachwedd 2012.

 

Bydd y Gorchymyn drafft yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd, y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, a’r Cynulliad mewn cyfarfod llawn.

 

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Chlerc y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn PwyllgorAC@wales.gov.uk neu ar 029 2089 8639.

 

Dychwelyd i dudalen gartref y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

Dychwelyd i dudalen gartref y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Dychwelyd i dudalen gartref y Cyfarfod Llawn

 

Math o fusnes: Is-ddeddfwriaeth

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 11/04/2013

Dogfennau