Ymchwiliad i Gronfa Buddsoddi i Arbed
Ymchwiliad i Gronfa Buddsoddi i Arbed
Fe wnaeth y Pwyllgor Cyllid ystyried pa mor
effeithiol y mae Cronfa Buddsoddi i Arbed Llywodraeth Cymru wedi bod hyd yma.
Mae'r Gronfa ar gael i sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus a gaiff eu hariannu
gan Lywodraeth Cymru, i gefnogi eu prosiectau gwella strategol sy'n arwain at
arbedion effeithlonrwydd sylweddol, i ryddhau arian parod, ac i sicrhau bod
gwasanaethau effeithiol sy'n canolbwyntio ar y dinesydd yn cael eu darparu.
Yn ystod yr
ymchwiliad, fe wnaeth y Pwyllgor drafod:
- pa effaith
a gaiff y gronfa Buddsoddi i Arbed, a yw'n cyflawni ei dibenion, i
"helpu sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus, trwy sicrhau
bod y gwaith o newid eu ffordd o ddarparu gwasanaethau yn mynd rhagddo
mewn modd effeithlon, effeithiol a chynaliadwy"?
- i ba
raddau y manteisiwyd ar y gronfa?
- pa wersi
a ddysgwyd, ac a oes modd i enghreifftiau o ymarfer da gael eu rhannu a'u
hymestyn yn ehangach drwy'r sector cyhoeddus?
- pa arbedion
a wnaethpwyd o ganlyniad i ddyfarnu rhoddion o'r gronfa?
- a oes
unrhyw rwystrau i fanteisio ar y gronfa h.y. a oes unrhyw elfennau o
broses y gronfa Buddsoddi i Arbed sy'n ei gwneud yn anodd i gymryd rhan yn
y cynllun?
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 15/04/2013
Dogfennau
- Adroddiad - Mawrth 2013
- Ymateb Llywodraeth Cymru: 29 Ebrill 2013 PDF 480 KB
- Llythyr ymgynghori PDF 463 KB Gweld fel HTML (3) 49 KB
- Ymateb i'r ymgynghoriad: Galw Gofal PDF 734 KB
- Consultation response: UWIC PDF 782 KB Gweld fel HTML (5) 83 KB
Ymgynghoriadau
- Ymchwiliad i Gronfa Buddsoddi i Arbed (Wedi ei gyflawni)