P-04-425: Tîm Wales
P-04-425: Tîm Wales
Geiriad y ddeiseb
Galwn ar
Gynulliad Cenedlaethol
Cymru i annog Llywodraeth
Cymru i geisio cytundeb â’r Pwyllgor Olympaidd
Rhyngwladol ynghylch diwygio’r Siartr Olympaidd i gydnabod gweinyddiaethau datganoledig Prydain Fawr yn
eu rhinwedd eu hunain, fel
y gallai Llywodraeth Cymru sefydlu Pwyllgor Olympaidd Cenedlaethol, ac fel y gallai ein
hathletwyr gystadlu fel rhan o Dîm
Cymru yn y dyfodol.
Mae gennym doreth o athletwyr talentog yng Nghymru o ystyried
maint ein gwlad; oni fyddai’n
wych gweld EIN hathletwyr NI ar y podiwm gyda’u medal aur, wrth i anthem genedlaethol Cymru gael ei chwarae’n uchel
i’r byd a baner genedlaethol Cymru (y Ddraig Goch) gael
ei chwifio yn y cefndir? Ar
hyn o bryd, rhaid iddynt wrando
ar anthem sy’n fwy cysylltiedig â Lloegr a gweld baner nad yw’n
cynnwys ein baner ni ond
baneri Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Felly, gadewch i ni ddod â thîm
ynghyd i gystadlu yn y Gemau Olympaidd
nesaf, yn Rio, yn 2016.
Prif ddeisebydd: Russell Gwilym Morris
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 2 Hydref
2012
Nifer y llofnodion: 208
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;