P-04-418 Enwi’r A470 yn - Brif Ffordd Tywysog Owain Glyndwr

P-04-418 Enwi’r A470 yn - Brif Ffordd Tywysog Owain Glyndwr

Geiriad y ddeiseb


Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Lywodraeth Cenedlaethol Cymru I enwi’r A470, yn ei chyfanrwydd, yn Brif Ffordd Tywysog Owain Glyndwr er cof am ymgyrch enfawr a hir yr arwr cenedlaethol mawr yma a’i chyd gymry dewr i ad-ennill annibyniaeth i Gymru.

Gwybodaeth ategol:  GwyMae’r A470 yn ffordd gefnol sy’n rhedeg o Gaerdydd yn De Cymru i Landudno yn y Gogledd.  Bu I Lysgenhadaeth Glyndwr lansio ymgyrch yn y flwyddyn 2000 i enwi’r ffordd ynBrif Ffordd Owain Glyndwr fel coff teilwng i’n harwr cenedlaethol mwyaf ar achlysur 6oomlwyddiant cychwyniad ei Rhyfel Mawr am Annibyniaeth 1400 - 1421.  Bu i’r Cynulliad Cymreig anwybyddu’r apêl yn y flwyddyn 2000 ond nawr, gan fod yna alw o gyfeiriad arall i ran o’r ffordd gael ei alw yn ‘Y Royal Welsh Way’ fel cydnabyddiaeth or Catrawd Brenhinol sy’n talu llw o deyrngarwch i Frenhiniaeth a Threfn Loegr sy’n parhau i feddiannu Cymru, mae Llysgenhadaeth Glyndwr wedi penderfynu ail gychwyn yr ymgyrch a lansiwyd gennym yn y flwyddyn 2000 gyda’r ddeiseb arfaethedig yma.

Prif ddeisebydd: Sian Ifan

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:  2 Hydref 2012

Nifer y llofnodion: 111

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;