P-04-415 Cefnogaeth am Bennu Parthau Cadwraeth Morol Lefel Gwarchodaeth Uchel
P-04-415 Cefnogaeth am Bennu Parthau Cadwraeth Morol Lefel Gwarchodaeth Uchel
P-04-415 : Cefnogaeth am bennu Parthau Cadwraeth Morol Lefel Gwarchodaeth
Uchel
Geiriad y ddeiseb
Rydym yn
cefnogi polisi Llywodraeth Cymru i bennu Parthau Cadwraeth Morol
lefel gwarchodaeth uchel ac yn annog
y Llywodraeth i lynnu at y polisi hwnnw.
Nodwn y beichiau sydd ar ein
moroedd, methiant Cymru i gyrraedd ei thargedau
bioamrywiaeth ar gyfer 2010 a’r dystiolaeth wyddonol gadarn sy’n profi’r
angen am fesurau cadwraeth morol llawer gwell. Rydym
yn cydnabod y dystiolaeth fyd-eang gryf sy’n dangos
y buddion o gael
ardaloedd gwarchodaeth morol lefel uchel
ac yn rhagweld y bydd Cymru yn gweld
cymariaethau tebyg ar ôl pennu
Parthau Cadwraeth Morol lefel gwarchodaeth
uchel. Yn benodol, gofynnwn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gefnogi’r alwad i ailddynodi Gwarchodfa Natur Forol Skomer,
sef unig warchodfa natur forol Cymru, sydd heb lawer o warchodaeth
ar hyn o bryd, yn ardal
â lefel gwarchodadeth uchel pan ddaw’n Barth Cadwraeth Morol pan ddaw darpariaethau Parthau Cadwraeth Morol Deddf y Môr
a Mynediad i’r Arfordir i rym yng Nghymru.
Does yr un man yn nyfroedd Cymru sydd wedi’i ddiogelu’n
llawn rhag effeithiau uniongyrchol y fod ddynol. Mae angen Parthau Cadwraeth
Morol lefel gwarchodaeth uchel arnom i: ddarparu rhywle i fywyd gwyllt morol fodoli
a ffynnu heb i ni ymyrryd arnynt
– rydyn ni’n gwneud hyn ar
y tir, felly ni ddylid cael safonau
is ar gyfer y môr; galluogi ecosystemau
i ailsefydlu ar ôl effeithiau uniongyrchol
y fod ddynol a gwella eu hydwythedd;
diogelu’r ecosystem forol er mwyn yr
holl nwyddau a gwasanaethau mae’n eu darparu i ni
ac na allwn oroesi hebddynt; ein helpu i ddeall
effeithiau pwysau’r fod ddynol ar
amgylchedd y môr a dod i ddeall sut
beth yw ecosystem forol sydd heb
ei heffeithio arni gennym ni.
Pwrpas Parthau Cadwraeth Morol lefel gwarchodaeth
uchel yw diogelu a gwella’r ecosystemau sydd o fewn iddynt, nid
diogelu poblogaethau pysgod a physgod cregyn yn unig.
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 2 Hydref
2012
Prif ddeisebydd: Blaise Bullimore
Nifer y llofnodion:
298
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Angen Penderfyniad: 30 Medi 2012 Yn ôl Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad