Ystyriaethau cydraddoldeb yng nghyllideb Llywodraeth Cymru

Ystyriaethau cydraddoldeb yng nghyllideb Llywodraeth Cymru

Mae Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn cynnal ymchwiliad i ystyriaethau cydraddoldeb yng nghyllideb Llywodraeth Cymru. Cylch gorchwyl yr ymchwiliad yw:

  • asesu'r cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru ar gynnwys ystyriaethau cydraddoldeb mewn cynllunio ariannol, yn benodol, ei dull o asesu effaith y gyllideb ar gydraddoldeb a'r broses Llunio Polisi Cynhwysol;
  • archwilio effaith dyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus ar gynllunio gwariant cyhoeddus;
  • archwilio'r materion ynghlwm wrth ddefnyddio technegau fel cyllidebu ar sail rhyw yn ymarferol;
  • adolygu enghreifftiau o ymarfer da i lywio datblygiad cyllidebu ar sail cydraddoldeb yng Nghymru;
  • defnyddio arbenigedd a thystiolaeth i lywio gwaith craffu'r Pwyllgor ar gyllideb ddrafft 2013-14.

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Dogfennau