Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Tybaco a Fêps

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Tybaco a Fêps

Cyflwynwyd y Bil Tybaco a Fêps (y Bil) yn Nhŷr Cyffredin ar 20 Mawrth 2024.

 

Mae enw hir y Bil yn dweud mai diben y Bil yw gwneud darpariaeth ynghylch cyflenwi tybaco, fêps a chynhyrchion eraill, gan gynnwys darpariaeth i wahardd gwerthu tybaco i bobl a gafodd eu geni ar 1 Ionawr 2009 neu ar ôl hynny; a galluogi gosod gofynion o ran cynhyrchion mewn cysylltiad â thybaco, fêps a chynhyrchion eraill.”.

 

Mae’r Bil yn ddarostyngedig i’r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29. Dyma pan fo Llywodraeth y DU yn ceisio cydsyniad Senedd Cymru i ddeddfu ar fater sy’n dod o fewn cymhwysedd y Senedd.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol – Mai 2024

 

Gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 316KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 9 Mai 2024.

Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Cyhoeddwyd gyntaf: 09/05/2024