P-06-1404 Cynyddu eglurder a hawliau'r rhai sy'n cael taliadau uniongyrchol neu Grant Byw'n Annibynnol Cymru er mwyn iddynt fyw'n annibynnol
P-06-1404 Cynyddu eglurder a hawliau'r rhai sy'n cael taliadau uniongyrchol neu Grant Byw'n Annibynnol Cymru er mwyn iddynt fyw'n annibynnol
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Nathan Lee Davies, ar ôl casglu 377 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae
anghydbwysedd pŵer yn erbyn pobl anabl. Nid yw awdurdodau lleol yn llwyddo
i ddarparu gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar lesiant, rhoi llais a rheolaeth a
chydgynhyrchu - egwyddorion craidd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant
2014. Mae angen tegwch a
- Chymorth eirioli gwell ac
mae angen corff cenedlaethol i gynrychioli llais defnyddwyr Taliadau
Uniongyrchol
- Proses datrys anghydfod
- Dulliau cyfathrebu gwell
- Paneli cwynion awdurdodau
lleol sy’n gwybod am y gyfraith a’r polisïau yng Nghymru
- Ailhyfforddi staff ALl i
sicrhau eu bod yn deall ysbryd a bwriad y Ddeddf.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
I
ddyfynnu'r Adroddiad Gwerthuso Terfynol ar Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a
Llesiant 2014 para 6.60: “I'r mwyafrif o ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr a
gyfwelwyd ar gyfer y gwerthusiad hwn, roedd eu profiad yn un o rwystredigaeth. Yn hytrach na'r gobaith a gynigwyd gan y
Ddeddf, roedden nhw'n gweld cyfres o rwystrau.
Roedd y rhain yn cynnwys agwedd gymharol ‘tocynistaidd’ at wrando,
anghydbwysedd grym rhyngddyn nhw a gweithwyr proffesiynol, yr angen i orfod
ceisio galw gweithwyr proffesiynol yn barhaus am gymorth, a diffyg
cydnabyddiaeth o’u hawliau yn enwedig o ran materion bod yn sensitif i'r
hinsawdd ymhlith pethau eraill. Roedd y
rhwystrau hyn yn gweithio yn erbyn y profiad oedd yn cael ei ‘gynnig’ a'i ‘addo’
gan egwyddorion sylfaenol y Ddeddf.”
Mae
pobl anabl yn wynebu loteri cod post o ran y wybodaeth a'r gwasanaethau y
gallant eu disgwyl. Mae angen gweithredu nawr.
Siawns
bod arian Grant Byw'n Annibynnol Cymru
wedi'i glustnodi ac na all unrhyw Gyngor ei adfachu ar fympwy? Beth
ddigwyddodd i’r syniad o gydgynhyrchu?
Gweler
cynsail cyfreithiol R (BG) V Cyngor Swydd Suffolk 2021 [EWHC] 3368 (Admin).
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Wrecsam
- Gogledd Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
- Briffiau ymchwil deisebau
Math o fusnes: Gwelliant
Cyhoeddwyd gyntaf: 14/03/2024