NDM8479 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cyflenwad tai
NDM8479 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cyflenwad tai
NDM8479 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn gresynu, er bod
angen o leiaf 12,000 o gartrefi newydd ar Gymru bob blwyddyn, bod Llywodraeth
Cymru wedi adeiladu prin hanner y nifer hwnnw dros y degawd diwethaf.
2. Yn cydnabod ffigurau
a ryddhawyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn 2023 bod 103,000 o anheddau sy'n
wirioneddol wag yng Nghymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i:
a) sefydlu tasglu
penodedig o gynllunwyr i fynd i'r afael â'r ôl-groniad yn y cynghorau â'r
perfformiad arafaf, a chreu prentis cynllunio ar gyfer pob cyngor;
b) cefnogi datblygwyr
bach yng Nghymru i adeiladu cartrefi ar dir sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru a
chynghorau lleol, gan ganolbwyntio ar ddiwallu anghenion lleol o ran tai; ac
c) troi eiddo gwag yng
Nghymru yn ôl i fod yn gartrefi.
Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn:
Gwelliant 1 Heledd Fychan
(Canol De Cymru)
Dileu'r cyfan a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod:
a) bron i 90,000 o
aelwydydd ar restrau aros tai cymdeithasol ar hyn o bryd; a
b) 11,273 o unigolion
mewn llety dros dro ym mis Hydref 2023, a bod 3,403 ohonynt yn blant dibynnol o
dan 16 oed.
2. Yn gresynu:
a) mai dim ond 5,775 o
unedau mae Llywodraeth Cymru wedi eu darparu ers 2021, er gwaethaf y targed o
ddarparu 20,000 o gartrefi carbon isel newydd i'w rhentu o fewn y sector
cymdeithasol yn ystod tymor y llywodraeth hon; a
b) bod dros 139,000 o
gartrefi cymdeithasol ar rent wedi eu colli i'r farchnad agored erbyn i'r Hawl
i Brynu gael ei diddymu yng Nghymru yn 2019, gan gyfrannu'n fawr at yr argyfwng
tai presennol.
3. Yn credu:
a) mai'r ateb i argyfwng
tai Cymru yw cynyddu'r cyflenwad o gartrefi fforddiadwy ar gyfer aelwydydd
incwm canolig ac isel, i'w rhentu ac i'w prynu; a
b) y bydd sicrhau
cyfradd llawer uwch o gartrefi mewn perchnogaeth gyhoeddus a chymunedol hefyd
yn dylanwadu'n gadarnhaol ar fforddiadwyedd yn y farchnad dai ehangach.
4. Yn croesawu'r:
a) ymrwymiad yn y
Cytundeb Cydweithio i gyhoeddi Papur Gwyn sy'n nodi cynigion i sefydlu system o
renti teg a dulliau newydd o wneud cartrefi'n fwy fforddiadwy; a
b) diwygio radical ar
gyfer y dyfodol a nodir yn y Papur Gwyn ar roi diwedd ar ddigartrefedd a
ddatblygwyd fel rhan o'r Cytundeb Cydweithio.
5. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gyflymu'r gwaith o adeiladu tai cymdeithasol yn gyflym er mwyn cyrraedd
neu ragori ar y targed i ddarparu 20,000 o gartrefi carbon isel newydd i'w
rhentu o fewn y sector cymdeithasol.
Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 2 Lesley
Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod yr heriau
y mae’r sector tai yn eu hwynebu, sy’n effeithio ar y cyflenwad o dai ar draws
y Deyrnas Unedig.
2. Yn croesawu’r camau y
mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd a’i buddsoddiad mewn tai.
3. Yn nodi ymrwymiad
uchelgeisiol Llywodraeth Cymru i ddarparu 20,000 o gartrefi cymdeithasol,
carbon isel yn ystod tymor y Llywodraeth hon.
4.
Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i Unnos, ar y cyd â Plaid Cymru, er mwyn
cefnogi ein cynghorau a’n landlordiaid cymdeithasol i wella’r cyflenwad o dai
cymdeithasol a thai fforddiadwy, gan gynnwys sicrhau bod mwy o gartrefi gwag yn
cael eu defnyddio unwaith eto.
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 16/02/2024