NDM8434 Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil i sefydlu goruchwyliaeth strwythuredig o reolwyr y GIG
NDM8434 Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil i sefydlu goruchwyliaeth strwythuredig o reolwyr y GIG
NDM8434 Mabon ap
Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar
gyfer Bil i sefydlu goruchwyliaeth strwythuredig o reolwyr y GIG, ar ffurf
corff rheoleiddio.
2. Yn nodi mai diben y
Bil fyddai:
a) sefydlu corff
rheoleiddio proffesiynol ar gyfer GIG Cymru i ddiffinio'r safonau proffesiynol
a ddisgwylir gan reolwyr GIG Cymru a bod yn lle i droi ar gyfer y rhai sy'n
teimlo nad yw'r safonau hynny wedi cael eu bodloni gan unrhyw reolwr unigol GIG
Cymru, a byddai ganddo'r pŵer i rybuddio, cosbi neu dynnu unrhyw reolwr
GIG Cymru oddi ar ei gofrestr a gynhelir;
b) diffinio beth yw
rheolwr GIG Cymru a chynnal cofrestr o reolwyr GIG Cymru; ac
c)
ei gwneud yn ofynnol i holl reolwyr y GIG fod wedi'u cofrestru gyda'r
corff rheoleiddio proffesiynol.
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 16/02/2024