P-06-1385 Cynnal arolwg diduedd o'r trigolion sy'n byw yn ardaloedd y cynllun peilot ar gyfer terfyn cyflymder o 20mya
P-06-1385 Cynnal arolwg diduedd o'r trigolion sy'n byw yn ardaloedd y cynllun peilot ar gyfer terfyn cyflymder o 20mya
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan David Ebbrell, ar ôl casglu 779 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
O haf 2021 ymlaen, cynhaliodd Llywodraeth Cymru gynllun peilot i ostwng y
terfyn cyflymder diofyn mewn ardaloedd trefol o 30mya i 20mya. Cynhaliwyd y
cynllun peilot hwn mewn sawl ardal o amgylch Cymru, sef: y Fenni, Sir Fynwy;
Canol Gogledd Caerdydd; Glan Hafren, Sir Fynwy; Bwcle, Sir y Fflint; Pentref
Cilfriw, Castell-nedd a Phort Talbot; Llandudoch, Sir Benfro; Saint-y-brid, Bro
Morgannwg; a Gogledd Llanelli, Sir Gaerfyrddin.
Gwybodaeth Ychwanegol:
O 17 Medi 2023, mae’r terfyn cyflymder is o 20mya mewn ardaloedd trefol
bellach wedi dod yn gyfraith gwlad.
Fodd bynnag, nid oes unrhyw un wedi gofyn barn y bobl a oedd yn byw yn
ardaloedd y cynllun peilot, gan gynnwys gofyn a ydynt o’r farn bod y cynllun
peilot wedi llwyddo neu fethu, a gadwyd at y terfyn cyflymder neu a gafodd ei
anwybyddu, ac a gafodd y newid ei blismona ai peidio. Nid oes unrhyw un wedi
gofyn i yrwyr sy'n dysgu neu yrwyr ifanc sydd â dyfeisiau monitro cyflymder
wedi'u gosod yn eu cerbydau sut y gwnaethant ymdopi â'r newid cyflymder. Nid
oes unrhyw un wedi gofyn i bobl sy'n gweithio yn yr ardaloedd hyn sut mae’r
newid wedi effeithio arnynt. Nid oes unrhyw un wedi gofyn i berchnogion
busnesau a ydynt o’r farn bod newid y terfyn cyflymder wedi effeithio ar eu
busnesau neu niferoedd cwsmeriaid. Mae’n rhaid bod y wybodaeth hon yn hanfodol
wrth geisio deall i ba raddau y bu’r cynllun peilot yn llwyddiant ai peidio.
Felly, rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal arolwg o drigolion a busnesau o
fewn ardaloedd y cynllun peilot, gan gynnwys adran i bobl ddweud eu dweud a
gwneud awgrymiadau am y cynllun.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Alun a Glannau Dyfrfwy
- Gogledd Cymru
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 28/02/2024