P-06-1343 Darparwch drafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bob disgybl ysgol uwchradd
P-06-1343 Darparwch drafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bob disgybl ysgol uwchradd
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Elin Wyn Davies, ar ôl casglu cyfanswm o 349
lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Credaf y dylai fod gan bob plentyn mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru hawl
i gael drafnidiaeth gyhoeddus am ddim er mwyn iddynt allu teithio i’w hysgol
uwchradd ddalgylch* yn ddiogel.
Rydym yn byw 2.4 milltir o ysgol uwchradd ein plant ond mae ein cyngor yn
datgan mai dim ond i’r rhai sy’n byw 3 milltir (neu ymhellach) o’u hysgol
uwchradd ddalgylch y mae trafnidiaeth am ddim ar gael. Byddai cerdded i'r ysgol
yn cymryd rhwng 50 munud ac awr o'n tŷ ni ar hyd ffyrdd prysur a
gordyrrog. Nid oes llwybr beicio diogel.
Fel teulu rydym yn gwario dros £80 y mis ar docynnau bws ar gyfer ein 2
blentyn. Mae’n arian na allwn ei fforddio mewn gwirionedd ond i rai rhieni mae
canfod £40 y mis (y plentyn) yn amhosib ac felly mae eu plant yn cael eu
gorfodi i gerdded ar hyd ffyrdd tywyll, prysur, peryglus a llygredig er mwyn
cyrraedd yr ysgol. Mae hyn yn annheg ac yn gwahaniaethu yn erbyn y plant tlotaf
mewn cymdeithas.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adolygiad (Mawrth 2022) o ‘Fesur Teithio gan
Ddysgwyr (Cymru)’ ac ym mis Mehefin 2022 dywedodd Mark Drakeford y bydd
'rhaglen ymgysylltu gynhwysfawr a fydd yn sicrhau bod ein holl randdeiliaid yn
cael y cyfle i gyfrannu at yr adolygiad ehangach dilynol'.
Diolch am arwyddo.
*Mae ysgol uwchradd ddalgylch yn cyfeirio at leoliad addysg CA3/4 y
plentyn/person ifanc gan gynnwys y Ysgolion cyfrwng Cymraeg, Ysgolion cyfrwng
Saesneg, Ysgolion dwyieithog, Ysgolion Ffydd, Ysgolion Arbennig, Unedau
Cyfeirio Disgyblion, darpariaeth EOTAS (Addysg Heblaw yn yr Ysgol) ac ati.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Gorllewin Caerdydd
- Canol De Cymru
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 13/06/2023