P-06-1339 Dylid creu gofyniad bod paneli solar yn cael eu gosod ar bob cartref newydd yng Nghymru, a hynny fel amod o sicrhau caniatâd cynllunio

P-06-1339 Dylid creu gofyniad bod paneli solar yn cael eu gosod ar bob cartref newydd yng Nghymru, a hynny fel amod o sicrhau caniatâd cynllunio

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Robert Curtis, ar ôl casglu cyfanswm o 268 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:       

Mae'r byd yn wynebu argyfwng ynni, ac rydym i gyd yn wynebu argyfyngau brawychus o ran yr hinsawdd a byd natur. Dyma pam mae mor bwysig bod Llywodraeth Cymru yn arwain y ffordd o ran sicrhau ffynonellau ynni adnewyddadwy yn y dyfodol.

 

Dylai pob adeilad diwydiannol, masnachol a domestig newydd (nad yw yn y cysgod nac yn wynebu'r gogledd) gynnwys cyfarpar ynni solar fel rhan o'r broses o gael caniatâd cynllunio.

 

Mae'r haul yn cynhyrchu mwy na digon o ynni i ddiwallu anghenion ynni'r byd i gyd, ac nid yw'r ynni hwnnw’n debygol o ddod i ben.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Mae nifer o fanteision amgylcheddol ynghlwm wrth ddefnyddio paneli solar. Maent yn cynhyrchu ynni gwyrdd, ac nid ydynt yn creu allyriadau wrth wneud hynny.

 

#1 Maent yn lleihau'r ynni yr ydym yn ei ddefnyddio o'r Grid Cenedlaethol. Maent yn lleihau tlodi ynni ac yn ein helpu ni i gadw’r goleuadau ymlaen.

 

#2 Nid ydynt yn creu allyriadau. Gallant leihau ôl troed carbon eich cartref 80 y cant mewn blwyddyn.

 

#3 Maent yn cynhyrchu ynni adnewyddadwy. Mae ynni solar yn fath o ynni adnewyddadwy. Mae hyn yn golygu bod digon ohono i bawb ei rannu, gan ei fod yn ffynhonnell o ynni na fydd yn dod i ben (nid am biliynau o flynyddoedd, beth bynnag). Mae tanwyddau ffosil yn ffynonellau cyfyngedig o ynni, ac rydym yn niweidio'r blaned pan fyddwn yn cloddio amdanynt ac yn eu dosbarthu.

 

#4 Maent yn para am amser hir ac nid oes angen llawer o waith cynnal a chadw arnynt, os o gwbl. Mae angen ailosod unedau gwresogi confensiynol a gwneud gwaith cynnal a chadw arnynt yn gymharol reolaidd. Gall hyn achosi llawer o wastraff nad yw'n ecogyfeillgar, yn ogystal â chynyddu'r angen am fwy o unedau. Gan fod paneli solar yn para tua 50 mlynedd, ni ddylai fod angen i chi eu hadnewyddu am amser hir.

 

 

A picture of a solar panel.

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 03/07/2023 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod y Gweinidog yn glir iawn ynghylch ei dull gweithredu a pham.

 

Yng ngoleuni ymateb y Gweinidog cytunodd yr Aelodau nad ydynt yn gallu mynd â'r mater ymhellach a chytunwyd i ddiolch i'r deisebydd a chau'r ddeiseb.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 03/07/2023.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Bro Morgannwg
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 22/05/2023