P-06-1320 Dyrannu cyllid ychwanegol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot i sicrhau ei fod yn gynaliadwy
P-06-1320 Dyrannu cyllid ychwanegol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot i sicrhau ei fod yn gynaliadwy
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Mark Fisher, ar ôl casglu cyfanswm o
1,893 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Bydd cynaliadwyedd y gwasanaethau llywodraeth leol sy'n cael eu darparu
ledled Castell-nedd Port Talbot yn cael ei herio'n sylweddol os na ddarperir
cyllid ychwanegol gan y Llywodraeth. Mae effaith barhaus Covid-19 a'r rhyfel yn
Wcráin yn creu galw digynsail ar wasanaethau'r cyngor sydd eisoes dan straen.
Rydym yn amcangyfrif diffyg o £5 miliwn ar gyfer 2022-23 ac £20 miliwn pellach
ar gyfer 2023-24. Mae ein cymunedau’n cael trafferth ymdopi â’r argyfwng costau
byw ac mae'n rhaid osgoi unrhyw gynnydd yn y dreth gyngor.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Mae angen digon o adnoddau ychwanegol arnom i'r Cyngor allu parhau i
gefnogi ein cymunedau drwy'r argyfyngau hyn, cynnal y gwasanaethau hanfodol y
mae pobl yn dibynnu arnynt a sicrhau gwelliannau tymor hir i les amgylcheddol,
diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd ein trigolion. Heb yr arian hwn, yr
unig ddewis arall yw torri swyddi a gwasanaethau, gan danseilio atebolrwydd
democrataidd os collir gwasanaethau i'r sector preifat neu'r trydydd sector a
disbyddu cronfeydd wrth gefn. Ar ôl dros ddegawd o fesurau cyni, nid oes
opsiynau meddal ar ôl. Bydd addysg ein plant a'n pobl ifanc, gofal a
chefnogaeth i blant a phobl agored i niwed (gan gynnwys rhai sy'n ddigartref,
ffoaduriaid neu geiswyr lloches), cynnal a chadw tir y cyhoedd a gwasanaethau ehangach
y Cyngor yn cael eu diraddio. Bydd telerau ac amodau llywodraeth leol yn disgyn
ymhellach y tu ôl i gymaryddion y sector cyhoeddus a’r sector preifat sy'n
dwysáu'r heriau o ddarparu adnoddau i'n sefydliad mewn marchnad lafur hynod
gystadleuol.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 03/07/2023 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd ei gamau
blaenorol i aros am y gyllideb derfynol a'r setliad Llywodraeth Leol. O
ystyried bod hyn bellach wedi mynd heibio cytunodd yr Aelodau i ddiolch i'r
deisebydd a chau'r ddeiseb.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar
06/02/2023.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Aberafan
- Gorllewin De Cymru
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 06/02/2023