P-06-1294 Peidiwch â gadael cleifion â chanser y fron metastatig yng Nghymru y tu ôl
P-06-1294 Peidiwch â gadael cleifion â chanser y fron metastatig yng Nghymru y tu ôl
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Tassia Haines, ar ôl casglu cyfanswm o 14,106
lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae pobl sy’n byw â chanser y fron metastatig yng Nghymru yn cael eu
hesgeuluso’n ddybryd gan y system. Ar hyn o bryd dim ond un nyrs glinigol
arbenigol canser y fron neilltuedig sydd gan Gymru, sefyllfa a allai adael
cannoedd o bobl heb ddigon o gymorth. Mae angen i ni wybod faint o bobl sy’n
byw gyda chanser y fron metastatig er mwyn gwella gwasanaethau. Ac rydym am
wella canlyniadau o ran ansawdd bywyd drwy godi ymwybyddiaeth o symptomau baner
goch ar gyfer canser y fron metastatig.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Rydym yn galw am y canlynol:
1. Dylai pob person â chanser y fron metastatig yng Nghymru gael mynediad
at nyrs glinigol arbenigol neilltuedig ar gyfer canser y fron eilaidd.
2. Dylid casglu data am y rhai sy’n byw â’r cyflwr ac yn cael triniaeth ar
ei gyfer yng Nghymru.
Rydym wedi ysgrifennu llythyr agored at y Gweinidog Iechyd a Gofal
Cymdeithasol ar ran cleifion canser y fron metastatig i ddangos yr angen am
well ansawdd bywyd a mwy o gefnogaeth i’r rhai sy’n byw â’r cyflwr.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Aberafan
- Gorllewin De Cymru
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 14/09/2022