Datgarboneiddio tai
Datgarboneiddio tai
Inquiry2
Wrth bennu ei
flaenoriaethau ar gyfer y Chweched Senedd, cytunodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a
Seilwaith (“y Pwyllgor”) i gynnal ymchwiliad aml-gam ar ddatgarboneiddio
tai yng Nghymru.
Bydd cam cyntaf
yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar ôl-osod cartrefi Cymru. Bydd y cam hwn yn
dechrau yn nhymor yr haf pan fydd y Pwyllgor yn cynnal sesiynau tystiolaeth
gyda rhanddeiliaid. Bwriad y cam cyntaf hwn yw galluogi'r Pwyllgor i asesu'r
cynnydd a wnaed hyd yma cyn penderfynu ar y meysydd yr hoffai ymchwilio iddynt
yn fanwl fel rhan o raglen waith tymor hwy.
Bydd ail gymal yr
ymchwiliad yn cynnwys tri ymchwiliad ar wahân ond sy’n gysylltiedig â’i gilydd.
Y cyntaf o'r rhain fydd 'Datgarboneiddio'r
sector tai preifat' (hynny yw, y sector rhentu preifat a’r sector
perchen-feddianwyr). Bydd y gwaith yn dechrau yn yr haf 2022 ac yn parhau tan
yr hydref 2022.
Casglu
tystiolaeth: cam cyntaf - ôl-osod cartrefi Cymru
Ysgrifennodd
(PDF 116 KB) y Pwyllgor at y Gweinidog Newid Hinsawdd ar 14 Mawrth 2022 am y
wybodaeth ddiweddaraf am:
- y cynnydd a
wnaed gan Lywodraeth Cymru o ran bwrw ymlaen â phob un o’r argymhellion a wnaed
gan y Grŵp
Cynghori ar Ddatgarboneiddio Cartrefi yng Nghymru yn ei adroddiad, Cartrefi
Gwell, Cymru Well, Byd Gwell, ac
-am ymateb Llywodraeth
Cymru i adroddiad Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Cartrefi
addas ar gyfer y dyfodol: Yr Her Ôl-osod.
Ymatebodd
(PDF 506KB) y Gweinidog Newid Hinsawdd i
lythyr y Pwyllgor ar 7 Ebrill 2022.
Cynhaliodd y
Pwyllgor sesiynau tystiolaeth lafar gyda rhanddeiliaid ddydd Iau 28 Ebrill
2022.
Gohebiaeth
mewn perthynas â'r argyfwng prisiau ynni:
Ar 10 Mai 2022 ysgrifennodd
y Cadeirydd at y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â’r cynnydd mewn prisiau
ynni. Ymatebodd
y Gweinidog ar 24 Mai 2022.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 18/03/2022
Dogfennau
- Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â’r cynnydd mewn prisiau ynni - 10 Mai 2022 PDF 80 KB
- Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn ymateb i lythyr y Cadeirydd dyddiedig 10 Mai mewn perthynas â'r argyfwng prisiau ynni – 24 Mai 2022 PDF 147 KB
Ymgynghoriadau
- Datgarboneiddio tai (Wedi ei gyflawni)