Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghymru

Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghymru

Cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru ei adroddiad ar Wasanaethau Mamolaeth ym m is Mehefin 2009. Canfu’r adroddiad, yn gyffredinol, bod y mwyafrif o fenywod yn fodlon â’r gwasanaethau mamolaeth a gawsant. Fodd bynnag, nododd bryderon am gysondeb y gwasanaethau mamolaeth a ddarperir ledled Cymru, a chanfu nad oedd gwybodaeth am berfformiad na gwybodaeth ariannol yn gyffredinol yn cael ei gasglu na’i ddefnyddio’n dda.

 

Ym mis Chwefror 2010 cyhoeddodd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y trydydd Cynulliad (2007-2011) adroddiad interim ar Wasanaethau Mamolaeth. Roedd adroddiad y Pwyllgor hwnnw’n amlygu nifer o feysydd ble’r oedd angen gwneud rhagor i wella’r gwasanaethau mamolaeth a ddarparwyd.

 

Rhoddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru y wybodaeth ddiweddaraf am Wasanaethau Mamolaeth yng Nghymru i Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y pedwerydd Cynulliad ym mis Mehefin 2012, ac o ganlyniad, cytunodd y Pwyllgor i gynnal gwaith pellach yn y maes hwn. Yn benodol, edrychodd y Pwyllgor yn fanwl ar feysydd ble y nodwyd gwelliannau ar eu cyfer, a gofynnodd am sicrwydd y byddai gwelliannau’n cael eu gweithredu.

 

Math o fusnes:

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 19/02/2014

Dogfennau