P-05-1127 Gostwng yr uchafswm ffioedd ar gyfer holl brifysgolion Cymru oherwydd gofynion dysgu o bell yn sgil COVID-19

P-05-1127 Gostwng yr uchafswm ffioedd ar gyfer holl brifysgolion Cymru oherwydd gofynion dysgu o bell yn sgil COVID-19

Wedi'i gwblhau

 

P-05-1127 Gostwng yr uchafswm ffioedd ar gyfer holl brifysgolion Cymru oherwydd gofynion dysgu o bell yn sgil COVID-19

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Chris Morgan, ar ôl casglu cyfanswm o 1,157 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Ar hyn o bryd, mae myfyrwyr amser llawn Prifysgolion Cymru yn talu £9000 y flwyddyn i gael mynediad llawn at wasanaethau Prifysgolion. Oherwydd y cyfyngiadau COVID-19 mae’r rhan fwyaf o’r dysgu yn cael ei wneud ar-lein.

Ni all myfyrwyr ddefnyddio llawer o’r gwasanaethau a’r offer a fyddai ar gael cyn COVID-19. Dylai gwasanaeth mwy cyfyngedig gael ei adlewyrchu mewn ffioedd gostyngedig.

 

A student and some money

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 02/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd nad oedd modd gwneud llawer mwy ar hyn o bryd oherwydd nad oes gan y deisebydd unrhyw sylwadau pellach ac nad oes gan Lywodraeth Cymru rôl o ran pennu cyfraddau ffioedd dysgu, ac eithrio pennu uchafswm. Cytunodd y Pwyllgor i gynghori'r deisebydd y gallai'r mater hwn fod yn ganolbwynt i fudiad undeb y myfyrwyr at y dyfodol a chaeodd y ddeiseb.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 02/03/2021.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Caerffili
  • Dwyrain De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 24/02/2021