P-05-1119 Blaenoriaethu athrawon, a staff ysgolion a gofal plant ar gyfer brechiadau COVID-19
P-05-1119 Blaenoriaethu athrawon, a staff ysgolion a gofal plant ar gyfer brechiadau COVID-19
P-05-1119 Blaenoriaethu athrawon, a staff ysgolion a
gofal plant ar gyfer brechiadau COVID-19
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Jonathan Môn Hughes, ar ôl casglu cyfanswm o 16,288 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Gan
fod llawer o blant sy'n dal COVID-19 yn dangos dim symptomau, yn aml mae'r
feirws yn lledaenu mewn ysgolion heb i unrhyw un wybod nes bod aelod o staff yn
datblygu symptomau.
Bydd
staff y GIG yn cael brechiad gan eu bod yn peryglu eu bywydau. Mae staff
ysgolion a gofal plant hefyd yn peryglu eu bywydau ond nid ydynt cael eu
blaenoriaethu ar gyfer brechiad.
Gwybodaeth
Ychwanegol
Ers mis Medi:
- mae mwy na 2,120 aelod o staff ysgolion wedi
cael prawf positif ar gyfer COVID-19.
- mae mwy na 3,030 o ddisgyblion wedi cael prawf
positif ar gyfer COVID-19.
- mae mwy na 1,570 o ysgolion wedi nodi o leiaf
un achos o’r coronafeirws.
Statws
Yn ei gyfarfod ar
02/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn sydd ar y gweill
ar 3 Mawrth, a chytunodd y dylid cau'r deisebau yn dilyn y ddadl, o ystyried y
bydd y Pwyllgor wedi gwneud popeth yn ei allu i godi proffil y mater hwn ac yng
nghyd-destun y cyngor a'r argymhellion y mae’r JCVI yn eu rhoi.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei
hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 26/01/2021.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Ynys Môn
- Gogledd Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 21/01/2021