P-05-1087 Rhowch derfyn ar ynysu torfol gan blant ysgol iach!
P-05-1087 Rhowch derfyn ar ynysu torfol gan blant ysgol iach!
P-05-1087 Rhowch derfyn ar
ynysu torfol gan blant ysgol iach!
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Victoria Codling, ar ôl casglu cyfanswm o
1,177 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae gorfodi plant i ynysu am 14 diwrnod yn gwneud cymaint o niwed i'w
llesiant meddyliol a chorfforol, mae'n anghymesur â'r risg o ddod i gysylltiad
â’r Coronafeirws yn y lle cyntaf.
Mae rhai plant yn dioddef eu trydydd cyfnod o ynysu mewn tri mis! Mae hyn
yn cael mwy fyth o effaith andwyol ar blant ag anghenion ychwanegol neu o
gefndiroedd difreintiedig.
Mae rhieni sy'n gweithio (nad ydynt yn ynysu) yn dioddef gan nad yw
cyflogwyr bob amser yn cydymdeimlo yn ystod y cyfnod economaidd anodd hwn.
Gwybodaeth Ychwanegol
Atebion:
Cyflwynwch brofion Coronafeirws sy’n rhoi canlyniad ar unwaith i blant
ysgol sydd, o bosibl, wedi dod i gysylltiad â'r feirws. Mae hyn yn cael ei
gyflwyno yn ein cartrefi gofal a'n meysydd awyr, felly pam nad oes modd gwneud
hynny yn ein hysgolion?
Er mwyn lleihau'r risg, sef "canlyniad negatif anghywir",
gellid cymryd y prawf ychydig o ddyddiau ar ôl yr achos posibl o ddod i
gysylltiad â'r feirws.
Bydd unrhyw ostyngiad yn y cyfnod ynysu 14 diwrnod o fudd enfawr i'r
plant.
Dylid nodi nad yw'r plant sy'n ynysu erioed wedi dod i gysylltiad â'r
plentyn heintiedig (digwydd hyn yn aml mewn ysgolion uwchradd).
Statws
Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i
chwblhau.
Caewyd y ddeiseb fel rhan o adolygiad o'r holl
ddeisebau sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd yng nghyfarfod olaf y Pwyllgor
Deisebau yn y Bumed Senedd, yng ngoleuni'r etholiad sydd i ddod a'r ystyriaeth
a roddwyd i'r mater hwn hyd yma.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 12/01/2021.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Dwyrain Casnewydd
- Dwyrain De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 05/01/2021