P-05-1087 Rhowch derfyn ar ynysu torfol gan blant ysgol iach!

P-05-1087 Rhowch derfyn ar ynysu torfol gan blant ysgol iach!

Wedi'i gwblhau

 

P-05-1087 Rhowch derfyn ar ynysu torfol gan blant ysgol iach!

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Victoria Codling, ar ôl casglu cyfanswm o 1,177 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:       

Mae gorfodi plant i ynysu am 14 diwrnod yn gwneud cymaint o niwed i'w llesiant meddyliol a chorfforol, mae'n anghymesur â'r risg o ddod i gysylltiad â’r Coronafeirws yn y lle cyntaf.

Mae rhai plant yn dioddef eu trydydd cyfnod o ynysu mewn tri mis! Mae hyn yn cael mwy fyth o effaith andwyol ar blant ag anghenion ychwanegol neu o gefndiroedd difreintiedig.

Mae rhieni sy'n gweithio (nad ydynt yn ynysu) yn dioddef gan nad yw cyflogwyr bob amser yn cydymdeimlo yn ystod y cyfnod economaidd anodd hwn.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Atebion:

 

Cyflwynwch brofion Coronafeirws sy’n rhoi canlyniad ar unwaith i blant ysgol sydd, o bosibl, wedi dod i gysylltiad â'r feirws. Mae hyn yn cael ei gyflwyno yn ein cartrefi gofal a'n meysydd awyr, felly pam nad oes modd gwneud hynny yn ein hysgolion?

 

Er mwyn lleihau'r risg, sef "canlyniad negatif anghywir", gellid cymryd y prawf ychydig o ddyddiau ar ôl yr achos posibl o ddod i gysylltiad â'r feirws.

 

Bydd unrhyw ostyngiad yn y cyfnod ynysu 14 diwrnod o fudd enfawr i'r plant.

 

Dylid nodi nad yw'r plant sy'n ynysu erioed wedi dod i gysylltiad â'r plentyn heintiedig (digwydd hyn yn aml mewn ysgolion uwchradd).

 

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Caewyd y ddeiseb fel rhan o adolygiad o'r holl ddeisebau sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd yng nghyfarfod olaf y Pwyllgor Deisebau yn y Bumed Senedd, yng ngoleuni'r etholiad sydd i ddod a'r ystyriaeth a roddwyd i'r mater hwn hyd yma.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 12/01/2021.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Dwyrain Casnewydd
  • Dwyrain De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 05/01/2021