P-05-1086 Dylid creu Amgueddfa Genedlaethol ar gyfer Hanes a Threftadaeth Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig

P-05-1086 Dylid creu Amgueddfa Genedlaethol ar gyfer Hanes a Threftadaeth Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Yasmin Begum, ar ôl casglu cyfanswm o 490 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:       

Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn deisebu Senedd Cymru i greu amgueddfa i ddathlu hanes pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig Cymru.

 

Fel rhan o'r sefydliad cenedlaethol, rydym yn gobeithio y bydd yn fodd o gadw treftadaeth gyfoethog Tiger Bay ac yn gartref i Archif Tiger Bay.

 

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 11/07/2022 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd, er na fu dim cynnydd o ran dod o hyd i gartref parhaol ar gyfer y casgliad, ei fod gan Archifau Morgannwg ar hyn o bryd a bod modd i aelodau o’r cyhoedd ei weld o hyd. Yn sgil hyn, nid oes llawer mwy y gall y Pwyllgor ei wneud ar y mater, felly cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 12/01/2021.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Gorllewin Caerdydd
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 05/01/2021