P-05-1097 Dylid gwahardd cewyll adar hela
P-05-1097 Dylid gwahardd cewyll adar hela
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan y Cynghrair yn erbyn Chwaraeon Creulon, ar
ôl casglu cyfanswm o 5,287 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Amcangyfrifir bod miliynau o ffesantod a phetris yn cael eu ffermio’n
ddiwydiannol yng Nghymru bob blwyddyn fel y gellir eu saethu am 'sbort'. Er
mwyn eu bridio, mae degau o filoedd o adar yn eu cadw’n gaeth mewn cewyll, yn
aml am lawer o'u hoes bridio. Mae cewyll yn greulon ac mae anifeiliaid yn
dioddef o’u herwydd. Yn flaenorol, mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ei
chefnogaeth i Gymru ddod yn genedl ddi-gewyll. Rydym yn galw ar Lywodraeth
Cymru i wahardd defnyddio cewyll ar gyfer cynhyrchu adar hela.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gall byw mewn cawell peri trallod ac anafiadau, ac nid yw'n darparu’n
llawn ar gyfer anghenion nac ymddygiad naturiol yr adar. Gall yr adar ddioddef,
ymysg pethau eraill, ddoluriau traed agored poenus, ymosodiadau a achosir gan
straen, ac anafiadau sy’n deillio o’u hymgeision niferus i ddianc. Er mwyn
lleihau ymddygiadau problemus sy'n gysylltiedig â'u cadw’n gaeth, megis pigo
adar eraill, gellir hefyd ddefnyddio dyfeisiau fel atalyddion plastig, sy'n
cael eu gwthio i'w ffroenau.
Mae ffesantod a phetris yn greaduriaid lled-wyllt eu natur, sy’n gwneud
effaith y cewyll arnynt yn waeth fyth. Serch hynny, nid ydyn nhw hyd yn oed yn
dod o dan y rheoliadau sylfaenol a ganiateir i anifeiliaid fferm eraill nac yn
cael eu harchwilio'n rheolaidd. Mae ymchwiliadau wedi datgelu achosion o dorri
canllawiau, megis defnyddio cewyll moel dro ar ôl tro, a gadael ffesantod marw
mewn cewyll yn ddigon hir iddynt gael eu canibaleiddio. Hyd yn oed mewn cewyll
a ddisgrifir fel rhai 'wedi’u cyfoethogi', gallai fod cyn lleied ag un glwyd
i’w rhannu, llen blastig a rhywfaint o borfa artiffisial.
Ni waeth a yw’r cewyll sy’n eu cadw’n gaeth yn rhai moel neu’n rhai
‘wedi’u cyfoethogi’, mae adar hela’n dioddef. Mae gan Lywodraeth Cymru y pŵer
i ddod â'r arfer hwn i ben.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 07/02/2022 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Nododd y Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi
sicrwydd ynghylch ymgynghori â rhanddeiliaid pan fydd yn bwrw ymlaen â’r
adolygiad o’r Cod, er na all roi amserlen benodol ar hyn o bryd oherwydd
effaith ffliw’r adar, Covid a Brexit. Yng ngoleuni y sicrwydd hwb gan y
Gweinidog, cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar
26/01/2021.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Gogledd Caerdydd
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 03/12/2020