P-04-380 Dewch â'n bws yn ôl! Deiseb yn erbyn diddymu’r gwasanaethau bws o ddwyrain Llanbedr Pont Steffan, Cwm-ann a Phencarreg
P-04-380 Dewch â'n bws yn ôl! Deiseb yn erbyn diddymu’r gwasanaethau bws o ddwyrain Llanbedr Pont Steffan, Cwm-ann a Phencarreg
P-04-380 Dewch yn ôl a’n
Bws! Deiseb yn erbyn diddymu’r
gwasanaethau bws o ddwyrain Llanbedr Pont Steffan, Cwm-ann a Phencarreg
Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw am wasanaeth bws ar frys sydd wedi’i drefnu a’i amserlennu’n gywir ar gyfer yr ardaloedd hyn yr effeithiwyd arnynt a byddem yn annog yr asiantaethau llywodraethol o dan sylw i ymrwymo i hyn ar ein rhan, cyn gynted ag sy’n bosibl.
Gwybodaeth ategol: Ar 27 Chwefror 2012, dechreuodd Arriva weithredu fel cwmni
masnachol yn unig gan roi
diwedd ar unrhyw gymhorthdal yr oedd yn
ei gael gan
gynghorau sir lleol a Llywodraeth Cymru, a newidiodd ei wasanaethau i fod yn ‘wasanaethau
cyflym’ yn hytrach na’r gwasanaethau
‘tynnu sylw a chamu ‘mlaen’ blaenorol,
sy’n hanfodol yn yr ardaloedd
gwledig iawn hyn.
Mae’r cwmni
wedi ailbennu llwybr y gwasanaeth X40 blaenorol fel ei
fod yn osgoi
dwyrain Llanbedr Pont Steffan, Cwm-ann a Phencarreg. Mae hynny’n amddifadu pobl rhag cael mynediad
at wasanaethau hanfodol fel eu meddygon
teulu, eu deintyddion, swyddfeydd post a siopau, ac yn amharu
ar allu pobl
i arfer eu rhyddid i symud, mewn perthynas â mynediad at y gwasanaethau uchod.
Mae diddymu gwasanaethau
bws rheolaidd wedi cael effaith
niweidiol iawn ar allu pob
rhan o’n cymunedau i fyw eu bywydau yn
ôl eu harfer.
Ni ellir gorbwysleisio’r ffaith amlwg bod diogelwch pobl yn cael ei
esgeuluso, oherwydd eu bod bellach yn ceisio cerdded
ar hyd ffyrdd
heb balmentydd ac heb eu goleuo
sydd â thraffig cyflym a jygarnotiaid arnynt.
Mae Cynghorau Sir Gâr a Cheredigion yn ceisio ymestyn
y cynllun ‘Bwcabus’, sef gwasanaeth a archebir o flaen llaw yn bennaf,
ond nad yw
ar gael bob amser ac sy’n gweithredu
ar hyn o bryd mewn modd
nad yw’n gynaliadwy yn economaidd
ac sy’n aneffeithlon yn amgylcheddol.
Gan mai Llywodraeth Cymru a chynghorau sir lleol wnaeth y penderfyniad i weithredu’r newidiadau trafnidiaeth hyn, hwy sy’n gyfrifol, o dan eu dyletswydd i ofalu am bobl Cymru, yn enwedig yr henoed a phobl eraill sy’n agored i niwed, am ofalu am y bobl sy’n colli eu hannibyniaeth ac sydd mewn perygl cynyddol o gael eu hynysu. Bydd diffyg gwasanaeth bws digonol hefyd yn effeithio ar yr agweddau economaidd a chymdeithasol ar fywydau pobl, ac ar eu lles
Cyflwynwyd gan: Sharon McNamara
Ystyriwyd gan y Pwyllgor am y tro cyntaf: 27 Mawrth 2012
Nifer y llofnodion:
505 (479 ar bapur a 26 ar y safle we)
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 07/04/2014