Ymchwiliad un-dydd i atal thrombo-emboledd gwythiennol

Ymchwiliad un-dydd i atal thrombo-emboledd gwythiennol

Ymchwiliad gwreiddiol y Pwyllgor

Cynhaliodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ymchwiliad undydd i atal thrombo-emboledd gwythiennol (VTE) ymhlith cleifion mewn ysbytai yng Nghymru yn ystod gwanwyn/haf 2012.

 

Diben y sesiwn oedd archwilio sut y caiff canllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) a’r adnodd asesu risg, sef 1000 o Fywydau a Mwy, eu defnyddio ledled Cymru a pha mor ddigonol ac effeithiol ydynt o ran atal thrombo-emboledd gwythiennol (VTE) ymhlith cleifion mewn ysbytai. Trafododd y Pwyllgor hefyd ddefnydd ac effeithiolrwydd proffylacsis ffarmacolegol a mecanyddol ar gyfer VTE ac a oedd unrhyw broblemau penodol o ran rhoi mesurau ar waith i atal VTE.

 

Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth am y pwnc hwn.

 

Adroddiad y Pwyllgor

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad (PDF, 498KB) ym mis Hydref 2012. Ymatebodd (PDF, 205KB) Llywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2012. Cynhaliwyd y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar 5 Rhagfyr 2012.

 

Gwaith dilynol y Pwyllgor

Yn haf 2014, cytunodd y Pwyllgor i ofyn am adroddiad diweddaru gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y cynnydd a wnaed hyd yma o ran gweithredu argymhellion y Pwyllgor. Ymatebodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ym mis Medi 2014.

 

Mae’r diweddariad gan y Gweinidog (PDF, 833KB) yn amlinellu bod y cynnydd mewn perthynas â gweithredu argymhellion y Pwyllgor yn unol â’r hyn a ddisgwylir o ystyried yr amserlen dan sylw. Yn sgil yr ymateb hwn, mae’r Pwyllgor wedi cytuno i beidio ag ymgymryd ag unrhyw waith pellach ar y pwnc hwn ar hyn o bryd.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 12/02/2012

Dogfennau

Ymgynghoriadau