P-04-366 Cau canolfan ddydd Aberystwyth
P-04-366 Cau canolfan ddydd Aberystwyth
Geiriad y ddeiseb:
Rydym ni, y rhai sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried a yw’r cynlluniau i symud y gwasanaeth gofal dydd ar gyfer pobl hŷn sy’n agored i niwed o’r Ganolfan Ddydd, sef adeilad 30 mlwydd oed a adeiladwyd i bwrpas, i lawr isaf hen adeilad a oedd yn arfer cael ei ddefnyddio fel Neuadd y Dref yn Aberystwyth yn cydymffurfio â gofynion statudol a chanllawiau perthnasol. Mae’r Cyngor Sir yn bwriadu dymchwel y Ganolfan fel rhan o ddatblygiadau i adeiladu maes parcio, archfarchnad a siopau.
Prif ddeisebydd:
Pamela Ellis
Nifer y deisebwyr:
10 (Casglwyd deiseb gysylltiedig tua 6,000 o lofnodion)
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 07/04/2014