P-05-1074 Cynyddwch nifer y bobl sy'n cael bod mewn mannau awyr agored fel y gall pob tîm yng Nghymru ailddechrau chwarae pêl-droed
P-05-1074 Cynyddwch nifer y bobl sy'n cael bod mewn mannau awyr agored fel y gall pob tîm yng Nghymru ailddechrau chwarae pêl-droed
P-05-1074 Cynyddwch nifer y
bobl sy'n cael bod mewn mannau awyr agored fel y gall pob tîm yng Nghymru
ailddechrau chwarae pêl-droed
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Mark Morgans, ar ôl casglu cyfanswm o 5,330
lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
COVID-19 – yn ôl y rheolau /deddfwriaeth bresennol, dim ond 30 o bobl a
ganiateir mewn man awyr agored! Ar gyfer gêm bêl-droed, mae angen 11 yn erbyn
11 ynghyd â swyddogion a staff... felly mae'n amhosibl ailddechrau’r
cynghreiriau cystadleuol i oedolion tan fod y nifer hon yn cael ei chynyddu!
Gellir cynnal gemau yn ddiogel ac yn effeithiol pe bai'r nifer yn cynyddu i 30
o bobl heb gynnwys y chwaraewyr a'r swyddogion ar y cae. Gofynnwn i chi
gysylltu â Chymdeithas Bêl-droed Cymru ac ystyried cynyddu’r niferoedd fel y
gall Haen 2 ac is ailddechrau chwarae.
Gwybodaeth Ychwanegol
Noder bod Cymdeithas Bêl-droed Lloegr / Cymdeithas Bêl-droed yr Alban a Chymdeithas
Bêl-droed Iwerddon fwy neu lai wedi ailddechrau eu cynghreiriau pêl-droed lleol
a chenedlaethol.
Statws
Yn ei gyfarfod ar
15/12/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Cytunodd y
Pwyllgor i gynnwys y materion a godwyd gan y ddeiseb yn y ddadl eang y mae'r
Pwyllgor yn bwriadu ei chynnal ym mis Ionawr 2021 ar fynediad i chwaraeon a
gweithgarwch corfforol yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud.
Wrth wneud hynny,
cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei
hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 15/12/2020.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Rhondda
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 26/11/2020