P-05-1072 Ymchwilio i'r pwerau sydd gan Senedd Cymru mewn perthynas â gwahardd therapi newid cyfeiriadedd rhywiol
P-05-1072 Ymchwilio i'r pwerau sydd gan Senedd Cymru mewn perthynas â gwahardd therapi newid cyfeiriadedd rhywiol
P-05-1072 Ymchwilio i’r pwerau
sydd gan Senedd Cymru mewn perthynas â gwahardd therapi newid cyfeiriadedd
rhywiol
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Samuel Fletcher, ar ôl casglu cyfanswm o 144
lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
O dan Teresa May, roedd maniffesto’r blaid Geidwadol yn cynnwys y nod o
wahardd therapi newid cyfeiriadedd rhywiol. Bron ddwy flynedd yn ddiweddarach,
nid yw hyn wedi digwydd. Galwodd y ddeiseb hon ar y Pwyllgor Deisebau i
ymchwilio i’r pwerau sydd gan Senedd Cymru yn y cyswllt hwn, ac yna i wahardd y
therapi os oes modd. Rhaid i’r weithred farbaraidd a homoffobig hon ddod i ben.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Caewyd y ddeiseb fel rhan o adolygiad o'r holl
ddeisebau sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd yng nghyfarfod olaf y Pwyllgor
Deisebau yn y Bumed Senedd, yng ngoleuni'r etholiad sydd i ddod a'r ystyriaeth
a roddwyd i'r mater hwn hyd yma.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 15/12/2020.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Gorllewin Abertawe
- Gorllewin De Cymru
Rhagor o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 10/12/2020