P-05-1052 Rhowch godiad cyflog i nyrsys yn unol â'r hyn a roddir i staff rheng flaen eraill yn ystod pandemig COVID-19
P-05-1052 Rhowch godiad cyflog i nyrsys yn unol â'r hyn a roddir i staff rheng flaen eraill yn ystod pandemig COVID-19
P-05-1052 Rhowch godiad cyflog i nyrsys yn unol â’r hyn a
roddir i staff rheng flaen eraill yn ystod pandemig COVID-19
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Ffion Rees, ar ôl casglu cyfanswm o 2,078 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae
Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn rhoi codiad cyflog o 2.8 y cant i
feddygon a deintyddion, gan ddatgan bod y codiad cyflog 'yn adlewyrchu
ymrwymiad y bobl sy’n gweithio'n galed i ofalu amdanom'.
Fodd
bynnag, nid yw staff nyrsio wedi cael eu cynnwys yn y codiad cyflog hwn, er y
gwaethaf y ffaith y gwnaeth llawer ohonynt gael y feirws wrth ymgymryd â’u
gwaith.
Fel
nyrs iechyd meddwl newydd gymhwyso, rwy'n gofyn i'r Senedd ailystyried y
penderfyniad hwn ac i gydnabod ymroddiad staff nyrsio drwy roi iddynt y codiad
cyflog y maent yn ei haeddu.
Gwybodaeth
Ychwanegol
Y cyfiawnhad am beidio â chynnwys staff nyrsio yn
y codiad cyflog hwn yw ein bod eisoes yn cael codiad cyflog o 6.2 y cant dros
gyfnod o dair blynedd, sef codiad cyflog y byddem wedi'i gael beth bynnag ac
nid at ddibenion cydnabod ein gwaith caled yn ystod y cyfnod heriol hwn.
Mae dwy ran o dair o'r nyrsys sydd wedi cael eu
heintio gan Covid-19 yn parhau i ddioddef sgil-effeithiau'r feirws wrth
gyflawni eu dyletswyddau fel nyrsys (Nursing Times, 2020).
Ar adeg y ddeiseb hon, mae dros 200 o staff y
GIG, gan gynnwys nyrsys, wedi marw o’r coronafeirws yn y DU (The Guardian,
2020). Mae hyn yn dangos bod staff nyrsio yn barod i wneud yr aberth eithaf er
mwyn gofalu am ein cleifion, ond eto nid ydynt yn cael codiad cyflog yn unol â
chydweithwyr sydd hefyd yn gweithio'n galed.
Yn ôl dadansoddiad diweddaraf Llywodraeth y DU o
ddata yn ymwneud â chyfraddau heintio y coronafeirws, sef dadansoddiad a wnaed
ym mis Ebrill 2020, roedd 16.2 y cant o'r rhai a heintiwyd yn weithwyr
allweddol, gan gynnwys staff nyrsio. Mae’r ffigur hwn yn cyfrif am bron i un
rhan o bump o'r achosion sydd wedi’u cadarnhau (y Ganolfan Meddygaeth Seiliedig
ar Dystiolaeth, 2020).
Statws
Yn ei gyfarfod ar
02/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law, yr ymateb pellach gan y Gweinidog a'i
ymrwymiad y bydd Llywodraeth Cymru yn cadw'r holl opsiynau’n agored pan gaiff
argymhellion yr adolygiad cyflog annibynnol eu gwneud. Fodd bynnag, o ystyried
y ffaith na ddisgwylir hyn tan fis Mai 2021 ac mai Llywodraeth y DU sy’n
pennu’r amserlenni, nid yw’r Pwyllgor yn gallu gwneud llawer mwy ar hyn o bryd.
Felly, pwysleisiodd yr Aelodau eu cefnogaeth a chytunwyd i gau'r deisebau a
diolch i'r deisebwyr.
Cafodd ei
hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar
12/01/2021
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Llanelli
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 26/11/2020