Craffu ar amcangyfrifon ariannol y Comisiwn Etholiadol ar gyfer 2021/22 a gynllun pum mlynedd

Craffu ar amcangyfrifon ariannol y Comisiwn Etholiadol ar gyfer 2021/22 a gynllun pum mlynedd

Bob blwyddyn, rhaid i’r Comisiwn Etholiadol gyflwyno amcangyfrif o incwm a gwariant i’r Pwyllgor mewn perthynas ag etholiadau a refferenda datganoledig yng Nghymru heb fod yn hwyrach na chwe mis cyn y flwyddyn ariannol y maent yn ymwneud â hi.

 

Yn ogystal ag amcangyfrifon o incwm a gwariant, rhaid i’r Comisiwn Etholiadol gyflwyno cynllun o bryd i’w gilydd i’r Pwyllgor sy'n nodi ei nodau, ei amcanion a'i gyllideb amcangyfrifedig ar gyfer ei swyddogaethau sy’n ymwneud ag etholiadau a refferenda datganoledig yng Nghymru yn ystod y cyfnod dilynol o bum mlynedd.

 

 

 

Ar ôl cwblhau ei waith craffu ar amcangyfrifon a chynlluniau’r Comisiwn Etholiadol, rhaid i’r Pwyllgor osod yr amcangyfrifon a’r cynlluniau hynny gerbron y Senedd, naill ai fel y’u cafwyd gan y Comisiwn Etholiadol neu gydag addasiadau.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ‘Craffu ar amcangyfrifon ariannol y Comisiwn Etholiadol ar gyfer 2021-22 a’r cynllun pum mlynedd ar gyfer 2020-21 hyd at 2024-25’ ar 20 Tachwedd 2020

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei Adroddiad Blynyddol 2020-21 ar arfer swyddogaethau Pwyllgor y Llywydd ar 26 Mawrth 2021.

 

Mae’r Pwyllgor wedi cyhoeddi ‘Datganiad o Egwyddorion Cyllido’ y Comisiwn Etholiadol, sy’n adlewyrchu sut y bydd trefniadau ariannu newydd y Comisiwn Etholiadol yn gweithio ar ddechrau 2021/22.

Math o fusnes: Craffu ar y gyllideb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 09/10/2020

Dogfennau