P-05-953 Gwahardd poteli llaeth plastig defnydd untro mewn ysgolion
P-05-953 Gwahardd poteli llaeth plastig defnydd untro mewn ysgolion
P-05-953 Gwahardd poteli llaeth plastig defnydd untro
mewn ysgolion Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
St Aidan's Church in Wales VA School, ar ôl casglu cyfanswm o 369 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rydyn
ni, plant Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru Sant Aidan, yn
galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i newid y ffordd rydyn ni'n defnyddio
poteli llaeth plastig mewn ysgolion. Bob dydd yng Nghymru, rydym yn defnyddio
oddeutu 300 cilogram o boteli llaeth plastig fel rhan o'r cynllun llaeth am
ddim mewn ysgolion. Credwn ei fod yn portreadu barn negyddol o ran
cynaliadwyedd, am fod mwy o bobl yn prynu mwy o blastig. Mae'n warthus faint o
boteli plastig rydyn ni'n eu defnyddio.
Gwneir plastig allan o nwy naturiol, olew crai a
glo. Rydym yn defnyddio tua 4,000 o boteli plastig bron bob blwyddyn ar gyfer y
cynllun llaeth am ddim hwn. Rydyn ni am i chi wahardd poteli llaeth plastig
defnydd untro mewn ysgolion. Rydyn ni'n awgrymu y dylai pob ysgol yng Nghymru
brynu poteli mawr o laeth a'i arllwys i gwpanau plastig y gallwn eu defnyddio
eto. Rydym yn defnyddio tanwyddau ffosil yn gyflymach nag y gallwn eu datblygu.
Diolch i chi am ddarllen y ddeiseb hon ac am helpu'r wlad, gobeithio, i waredu
ar y gwastraff hwn.
Statws
Yn ei gyfarfod ar
17/11/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y
Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb a, gan gydnabod yr holl ohebiaeth
a gafwyd hyd yma, a diffyg cysylltiad pellach gan y deisebydd yn ddiweddar,
cytunodd i gau'r ddeiseb.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei
hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 29/09/2020.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Preseli Sir Benfro
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 15/04/2020