P-05-946 Achub adran Damweiniau ac Achosion Brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg
P-05-946 Achub adran Damweiniau ac Achosion Brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg
P-05-946 Achub adran Damweiniau ac Achosion Brys Ysbyty
Brenhinol Morgannwg
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Geraint Williams, ar ôl casglu 13,342 o lofnodion ar-lein a 1,222 ar bapur, sef
cyfanswm o 14,564 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae pryderon difrifol y bydd adran
Damweiniau ac Achosion Brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn cau, neu'n cau'n
rhannol, cyn bo hir
Bydd hyn yn cael effaith sylweddol ar fynediad
cleifion yn Rhondda Cynon Taf at adran Damweiniau ac Achosion Brys, a bydd
hefyd yn rhoi pwysau ychwanegol ar adrannau Damweiniau ac Achosion Brys ym
Merthyr Tudful, Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr.
Dylai Llywodraeth Cymru ymyrryd a gwneud popeth
yn ei gallu i atal unrhyw ostyngiad yn y gwasanaeth o ran darpariaeth
gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg a gwneud
popeth yn ei gallu i hwyluso'r broses o recriwtio a phenodi Ymgynghorwyr
Damweiniau ac Achosion Brys ar y bwrdd iechyd.
Statws
Yn
ei gyfarfod ar 07/07/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon
wedi'i chwblhau.
Yng
ngoleuni'r penderfyniad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i gadw
Adran Achosion Brys amser llawn yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, cytunodd y Pwyllgor
i gau'r ddeiseb ac i longyfarch yr ymgyrchwyr ar ddatrysiad llwyddiannus i’w
hymgyrch.
Gellir
gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r
dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd
ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 12/05/2020.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Merthyr Tudful a Rhymni
- Dwyrian De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 18/03/2020