Gwrandawiad cyn penodi: Cadeirydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Gwrandawiad cyn penodi: Cadeirydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Inquiry5

 

Gall pwyllgorau’r Senedd gynnal gwrandawiadau craffu cyn-penodi gyda’r ymgeisydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei ffafrio ar gyfer penodiadau cyhoeddus arwyddocaol. Yn dilyn gwrandawiadau o’r fath, bydd y Pwyllgor yn cyflwyno adroddiad ar ei farn ar addasrwydd yr ymgeisydd. Y Gweinidog perthnasol fydd yn penderfynu p’un a yw’n derbyn argymhellion y Pwyllgor yn ymwneud â’r penodiad neu beidio, ond os na fydd y Gweinidog yn derbyn argymhelliad, dylai ymateb i’r Pwyllgor i egluro pam.

 

Ym mis Mawrth 2020, cynhaliodd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon wrandawiad cyn-penodi gyda’r ymgeisydd yr oedd Llywodraeth Cymru yn ei ffafrio ar gyfer swydd Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Math o fusnes:

Cyhoeddwyd gyntaf: 06/04/2020

Dogfennau