NDM7288 Dadl Plaid Cymru - Anhwylderau Bwyta
NDM7288 Dadl Plaid Cymru - Anhwylderau Bwyta
NDM7288 - Sian
Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta
2020 yn cael ei chynnal rhwng 2 Mawrth a 8 Mawrth ac y bydd y ffocws eleni ar
bwysigrwydd grymuso a chefnogi teuluoedd a chyfeillion.
2. Yn credu:
a) bod anhwylderau bwyta yn salwch meddwl difrifol gyda
chyfraddau marwolaeth uchel;
b) bod gwellhad yn bosibl;
c) gall teuluoedd a chyfeillion chwarae rhan hollbwysig
wrth gefnogi adferiad.
3. Yn cymeradwyo'r rhai a fu'n gweithio ar yr Adolygiad
o'r Gwasanaeth Anhwylderau Bwyta 2018 a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru ac a
gymerodd ran ynddo, ac uchelgais yr adolygiad i greu gwasanaeth anhwylderau
bwyta o safon fyd-eang i Gymru, sy'n hygyrch i bawb sydd ei angen.
4. Yn credu y bydd grymuso a chefnogi teuluoedd,
ffrindiau a gofalwyr eraill yn hanfodol i wireddu'r uchelgais hwn.
5. Yn gresynu at y cyfnod estynedig o amser a gymerodd
Llywodraeth Cymru i ymateb i gasgliadau adolygiad 2018 o'r gwasanaeth.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a byrddau iechyd,
awdurdodau lleol a'r holl randdeiliaid eraill i sicrhau bod argymhellion yr
Adolygiad Gwasanaeth Anhwylderau Bwyta 2018 yn cael eu gweithredu'n llawn.
Adolygiad
Llywodraeth Cymru o Wasanaeth Anhwylderau Bwyta - Tachwedd 2018
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 5 ac ailrifo yn unol â
hynny:
Yn gresynu ymhellach at yr amser i ddatblygu amseroedd
aros am wasanaethau i oedolion a gwasanaethau plant a amlinellir yn ymateb y
Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 26 Medi 2019.
Datganiad ysgrifenedig - Adolygiad o Wasanaethau
Anhwylderau Bwyta Cymru - Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - 26
Medi 2019
Gwelliant 2 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ym mhwynt 6, ar ôl 'i sicrhau' ychwanegu 'ar frys'.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/06/2021
Angen Penderfyniad: 4 Maw 2020 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Siân Gwenllian AS