NDM7289 Dadl Plaid Cymru - Gwasanaethau Iechyd Meddwl

NDM7289 Dadl Plaid Cymru - Gwasanaethau Iechyd Meddwl

NDM7289 - Sian Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r pryderon ynghylch ansawdd y gofal a godir gan berthnasau cleifion o Gymru mewn unedau iechyd meddwl cleifion mewnol yn Lloegr.

2. Yn credu na ddylid anfon unrhyw gleifion sy'n cael problemau iechyd meddwl i unedau sy'n bell iawn o'u teulu.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) sicrhau digon o gapasiti cleifion mewnol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru fel y gellir mynd ati'n radol i ddileu'r gwaith o roi gofal ar gontract allanol;

b) bod â chynllun ar gyfer ailwladoli cleifion o Gymru sydd ar hyn o bryd yn byw mewn unedau yn Lloegr;

c) gosod gwaharddiad ar GIG Cymru rhag defnyddio unedau yn Lloegr sydd ag adroddiadau gwael gan y Comisiwn Ansawdd Gofal;

d) sicrhau bod unedau y tu allan i Gymru sy'n derbyn arian GIG Cymru yn cydymffurfio â gofynion arolygu Cymru.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) sicrhau bod pellter o’r cartref yn cael ei ystyried yn ffactor allweddol ar gyfer pobl sydd angen cymorth iechyd meddwl arbenigol fel cleifion mewnol

b) sicrhau bod trefniadau cadarn ar waith i fonitro ansawdd a diogelwch lleoliadau mewn unedau yn Lloegr, gan gynnwys gweithio ar y cyd â’r Comisiwn Ansawdd Gofal.

 

[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad]

Gwelliant 2 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) sicrhau bod holl gleifion iechyd meddwl cyfrwng Cymraeg a diogelwch lefel uchel yn cael eu lleoli yng Nghymru oni bai mewn amgylchiadau eithriadol;

b) sicrhau digon o gapasiti ar gyfer cleifion mewnol diogelwch canolig a lefel uchel ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru fel y gellir diddymu'r trefniadau ar gyfer contractio gofal yn raddol;

c) sicrhau bod Arolygiaeth Iechyd Cymru a'r Comisiwn Ansawdd Gofal yn cydweithredu er mwyn i unedau iechyd meddwl y tu allan i Gymru sy'n derbyn cleifion o Gymru gydymffurfio â gofynion arolygu;

d) cyflwyno Uwch-swyddogion Cyfrifol ar gyfer cleifion iechyd meddwl diogelwch canolig a lefel uchel Cymru er mwyn galluogi cydweithio rhwng Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru a byrddau iechyd lleol sy'n canolbwyntio ar y claf; ac

e) sicrhau bod yn rhaid i gynlluniau cyfathrebu gael eu gosod ochr yn ochr â chynlluniau triniaeth ar gyfer cleifion iechyd meddwl diogelwch canolig a lefel uchel Cymru er mwyn rheoli disgwyliadau'r claf, y teulu a'r clinigwyr.

 

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 04/06/2021

Angen Penderfyniad: 4 Maw 2020 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Prif Aelod: Siân Gwenllian AS